DYDD SADWRN
GŵYL CERDD DANT LLANDYSUL A’R FRO 2017 S4C, 2.00
RHAGLEN fyw yn cynnwys holl liw’r cystadlu o ddigwyddiad diwylliannol traddodiadol undydd mwyaf Cymru a gynhelir eleni yn neuadd Ysgol Bro Teifi, Llandysul. Nia Roberts, gyda chymorth Trystan Ellis-Morris a Morgan Jones, fydd yn ein tywys drwy’r cystadlu ar gerdd dant, y delyn, canu gwerin, dawnsio gwerin a llefaru. Bydd y criw yn ôl gyda mwy o gystadlu heno am 7.30.