Caernarfon Herald

Pobol y Cwm

11-17 Tachwedd

-

YN dilyn y digwyddiad yn y festri, mae Megan yn teimlo bod y pentrefwyr yn ei beio hi, ond caiff ei chysuro pan mae’r trigolion yn dangos nad oes drwg deimlad. Mae Elgan yn cael ei gwestiynu gan Garry a chaiff ei orfodi i ddweud celwydd am ei orffennol.

Mae Ffion yn derbyn newyddion drwg am Arwen yn dilyn profion yn yr ysbyty. Er bod Siôn yn ceisio ei orau i argyhoeddi Ffion bod angen iddi ddweud wrth Gethin, nid yw’n teimlo ei bod hi’n gallu gwneud hynny.

Mae Eileen yn cytuno i fod yn dyst i Sioned yn yr achos llys, ond mae’n cael trafferth dod i delerau â’r ffaith y bydd yn rhaid iddi ddweud celwydd yno. Wedi dychryn, mae Sioned yn dyfeisio cynllun arall i achub ei chroen ei hun. Pobol y Cwm: Llun-Gwener 8.00, S4C

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom