DYDD IAU Y FETS, 8.00
YN rhaglen ola’r gyfres sy’n dilyn Fets Ystwyth wrth eu gwaith, mae Pip y Labrador yn dangos arwyddion o ganser. Mae ‘Mynydd’ yr oen swci hefyd yn dioddef â’i iechyd ac mae perchnogion Cringer y ci yn poeni ei fod wedi bwyta mwyar gwenwynig.