WELSH COL­UMN

Western Mail - - WM2 - DY­LAN IORWERTH

RO’N i wedi clywed y dar­nau cerd­do­ri­aeth o’r blaen ac wedi med­dwl eu bod nhw’n ddigon dy­munol, a dweud y gwir.

“Mo­ments Mu­si­caux” oedd y teitl – dar­nau bach byr i’r pi­ano gan y cy­fan­sod­dwr Schu­bert a finnau wedi ar­fer eu clywed ar ryw hen LP feinyl oedd gan Mam.

Mi wnes i eu clywed nhw eto rhyw bythefnos yn ôl, ond roed­den nhw’n ddar­nau hol­lol wa­hanol. Nid am fod y pi­anydd wedi canu’r nodau anghy­wir; i’r gwrth­wyneb – oher­wydd ei fod wedi ffein­dio dyfn­der yn­d­dyn nhw nad o’n i wedi’i ddy­ch­mygu o’r blaen.

Wrth gwrs, mae perf­formiad byw da am fod yn well na recor­diad da ond nid dyna’r unig wa­ha­ni­aeth wrth i fi wrando ar y dar­nau eto yn neuadd gy­n­gerdd Co­leg Cerdd a Drama Cymru. Y gwa­ha­ni­aeth oedd mai Llŷr Wil­liams oedd wrthi.

Do’n i ddim wedi ei gly­wed o’n fyw ers blwyd­dyn neu ddwy ac wedi han­ner-anghofio pam fy mod yn gwiri­oni ar ei weld yn canu pi­ano a pham ei fod o, yn fwy na neb, yn profi pam mai “canu” ydi’r term cy­wir yn Gym­raeg, nid “chwarae”.

Fel alarch yn llithro i’r dŵr, mae’r cerd­dor o ardal Wrec­sam yn cael ei weddnewid wrth eistedd ar y stôl o flaen y rhesi nodau. Ac, fel gydag alarch, mae’n med­di­annu’r lle fel na all­wch chi edrych na gwrando ar ddim ar­all.

Mae yna bianydd jazz o’r enw Keith Jar­rett sy’n rhyw fwmial y nodau cyn eu canu nhw; mae Llŷr Wil­liams fel petai’n gwneud yr un peth, ond heb sŵn. Mae es­gyrn ei wyneb ac, wei­thiau, holl ys­tum ei gorff yn gwei­thio efo’r gerd­do­ri­aeth, fel petai’r nodau’n llifo tr­wyddo fo i gyrraedd yr of­feryn.

Ar y dechrau, mae’r angerdd yma’n mynd â’ch sylw chi; yn rad­dol, mae’r symu­di­adau’n mynd yn rhan o’r perf­formiad a’r gerd­do­ri­aeth; yn eu ffordd, maen nhw’n gy­fared­dol.

Bob hyn a hyn, mi fydd yn edrych arnoch chi yn y gy­nullei­dfa ond dw i’n rhyw amau mai edrych heb weld ydi hwnnw. Tra bo’r nodau’n chwarae, mae Llŷr Wil­liams fel petai mewn lle ar­all a, thrwy ei gr­efft a’i athrylith, mae’n eich tynnu chi i mewn. Mae o’n un â’r gerd­do­ri­aeth a chithau’n un ag o.

Sut mae o’n gwneud hynny? Be wn i? Taswn i’n gwybod yr ateb, faswn i ddim yn fa’ma yn crafu by­wo­li­aeth o flaen cyfrifiadur.

Yr angerdd ydi un peth ond mae yna ry­w­beth yn y ffordd y mae’n cyfleu’r gwei­thiau hefyd. Mae hyd yn oed tw­p­syn cerd­dorol fel fi yn gallu clywed y gwa­hanol rhud­dmau ac ala­won yn gwei­thio efo’i gi­lydd yn gallu gweld y darn yn dod yn­ghyd pan nad oedd o cynt yn ddim ond cyfres o nodau swynol.

“Mo­ments Mu­si­caux” oedd un o’r dar­nau y no­son o’r blaen. “Mo­ments” pan oedd amser yn aros. Dy­lan Iorwerth yw Goly­gydd Gy­far­wyd­dwr Golwg a Golwg 360

Newspapers in English

Newspapers from UK

© PressReader. All rights reserved.