Yr ‘c’ fach a’r trywydd traddodiadol
Pobol Môn yn arwain y blaen
UN o nodweddion cyfnod y cloi fu’r rheidrwydd ar i bobol wneud defnydd helaeth o gyfryngau newydd er mwyn cadw cysylltiad ag eraill.
Ac er holl anfanteision y cloi, fe welwyd sawl esiampl nodedig o’r rhannu a’r cyfranogi newydd sy’n bosib rhwng pobol trwy gyfrwng y we bellach. Un o’r esiamplau disgleiriaf ydi’r grŵp ‘Môn’ : grŵp Cymraeg ei iaith a lansiwyd gan yr ieithydd Guto Rhys, yn wreiddiol o Lanfairpwll, ond sy’n gweithio ym Mrwsel erbyn hyn. Ers lansiad y grwp Facebook hwn ym mis Mawrth, mae bron i 5,500 o aelodau wedi cofrestru ar y safle sy’n anelu i ddathlu Cymreictod Môn, ei diwylliant, ei harddwch naturiol a’i hanes.
Ac mae twf syfrdanol yr aelodaeth a phostiadau niferus dyddiol ar y safle yn dangos dyfnder y dyhead cyfoes i fod yn rhan o’r fenter ieithyddol newydd hon. Gyda nifer helaeth o Fonwysion alltud hefyd yn gallu manteisio ar y cyfle i ailafael ac ail-ymfalchïo yn eu gwreiddiau.
Mae cymdeithasegwyr iaith yn sôn yn aml am bwysigrwydd peuoedd penodol yn hanes ieithoedd lleiafrifol - meysydd lle mae’r iaith honno yn gallu anadlu’n rhydd a dominyddu pethau o’i chwmpas yn ddiymdrech. Hanes y blynyddoedd diweddar wrth gwrs fu colli rhai o’r peuoedd traddodiadol y gallai’r Gymraeg eu dominyddu, e.e yn dilyn dirywiad ein capeli ac eglwysi.
Ac er fod sawl pau newydd Cymraeg yn eu lle heddiw, gellid dadlau bod peth ddiffygion yn perthyn iddynt. Wedi’r cwbwl, mae sefydliadau fel S4C, Comisiynydd y Gymraeg, a hyd yn oed yr Eisteddfod Genedlaethol - er mor bwysig ydyn nhw- yn gallu bod yn bell iawn, yn ddaearyddol ac yn feddyliol, o fywydau bob dydd trigolion yr ardaloedd Cymraeg traddodiadol. A peuoedd ‘top i lawr’, sefydliadol a biwrocrataidd ydyn nhw hefyd at ei gilydd.
Dyna pam y mae gweld pau newydd fel ‘Môn’ mor gynhyrfus o ran yr iaith - dyma bau sydd wedi ei greu’n organig ac yn wirfoddol o fewn y gymdeithas Gymraeg, heb unrhyw arlliw ‘swyddogol’ yn perthyn iddi.
Pau all gryfhau hunaniaeth Gymraeg yr ynys a normaleiddio’r syniad mai dyma hunaniaeth greiddiol yr ynys y mae gofyn i bawb ei gydnabod a’i barchu. Diddorol iawn yw sylwi sut mae grŵp Môn, a chyfraniadau ei aelodau wedi esblygu’n ddiweddar.
Mae’r rhannu lluniau hanesyddol a diwylliannol o Fôn a fu mor amlwg ar y dechrau yn parhau, ond mae gwedd mwy ymwybodol ieithyddol a gwleidyddol yn dechrau ymddangos arno erbyn hyn. Mae hyn yn fodd i arddangos balchder a chariad yr aelodau at yr iaith ac yn brawf o sylweddoliad cynyddol bod angen i unigolion fod llawer mwy llafar a gweithredol o’i phlaid yn wyneb yr holl bwysau arni gan elfennau megis gor-dwristiaeth er enghraifft.
Mae un aelod er enghraifft wedi mynd ati o’i ben a’i bastwn ei hun i holi holl fwytai yr ynys ynghylch eu polisïau parthed y Gymraeg yn eu gwaith. A derbyn sawl ymateb positif gan fusnesau sydd unai eisoes yn gweld gwerth defnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith, neu’n awyddus i wneud mwy i’r cyfeiriad hwn.
Dengys hyn be sy’n bosib i un unigolyn brwd ac ymrwymedig ei gyflawni i hyrwyddo’r iaith yn lleol. A sut y gall hynny yn ei dro ysbrydoli ac ymwroli eraill yn ei sgil.
Er mai grŵp yn y rhithfyd ydi Môn yn bennaf, mae’r enghraifft uchod yn argoel o’r hyn y mae’n bosib ei gyflawni yn y cigfyd wrth i’r aelodaeth gynyddu eto. Er enghraifft, tybed all yr aelodau ddod ynghyd i greu ymgyrch boblogaidd lawr gwlad ym Môn i ddwyn perswâd ar newydd-ddyfodiaid i ddysgu’r iaith ac i’w defnyddio yn eu bywydau bob dydd.
A chreu rhwydwaith o fentoriaid iaith gwirfoddol mewn gwahanol gymunedau a fyddai’n fodlon annog a helpu unigolion i ymarfer yr iaith ar lefel ddyddiol ar yr ynys. Gan feithrin synnwyr o falchder a bri ynghylch y ffaith mai Môn ydi’r ail ardal Gymreiciaf trwy Gymru gyfan (ar ôl Gwynedd). Ffaith y dylid ei chyhoeddi’n dalog ar bob achlysur er mwyn codi proffil cenedlaethol yr ynys.
Ac o ran cael hyd i enw ar y ffasiwn symudiad, wel, be well na ‘Mamwlad’ : enw cân arbennig am yr ynys sydd wedi ei chyfansoddi gan yr awdures dalentog leol, Mared Lewis. Mae ymlyniad eneidiol pobol Môn at eu hynys yn sicr wedi helpu gyda llwyddiant rhyfeddol y grŵp newydd hwn.
Mae’n hunaniaeth gyda’r cryfaf o’r holl hunaniaethau rhanbarthol sy’n nodweddu Cymru. Ond er y ffactorau unigryw sy’n perthyn i Fôn, mae’n fodel hefyd y gallai ein hardaloedd Cymraeg eraill ei hefelychu wrth hyrwyddo Cymreictod heddiw. Wedi’r cwbl, mae’n fodd hwylus i uno pobol gyda’i gilydd dros y we yn y lle cyntaf i ddathlu Cymreictod eu hardal unigol. Gyda’r posibilrwydd o drosi’r ymrwymiad hwnnw yn ei dro yn genhadu bwriadol o blaid yr iaith yn wirfoddol yn eu cymunedau maes o law.
Fe ŵyr pawb ohonom am rai o beryglon y we, ond yn yr achos hwn, lle i ddiolch sydd gennym ei fod wedi gallu hwyluso prosiect o’r math hwn.
A diolch hefyd i Fôn am fod yn fam i Gymru unwaith eto gan esgor y tro hwn ar fywyd newydd yn hanes yr iaith.
‘Hanes y blynyddoedd diweddar wrth gwrs fu colli rhai o’r peuoedd traddodiadol y gallai’r Gymraeg eu dominyddu’