Merched y Wawr Mis o addasu y pethau arferol... a rhai yn gweld teulu unwaith eto
Gan Meirwen Lloyd, Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr
Yn ystod mis Awst bu sawl un ohonom mor lwcus i weld a chyfarfod teulu am y tro cyntaf ers dechrau’r pandemig.
Bu hefyd yn fis o addasu gweithgareddau arferol gwyliau haf.
Roedd yr Eisteddfod AmGen yn llwyddiant mawr. Cymerodd Merched y Wawr ran mewn sawl digwyddiad, gan gynnwys fidio o Hazel Thomas ein Swyddog Datblygu a Hyrwyddo yng Ngheredigion a Phenfro wrth iddi roi gwers goginio i Tomos Evans, aelod o ‘Llais heb Faes’ Prifysgol Caerdydd.
Profodd hyn yn boblogaidd iawn ac felly rydym am roi gwahoddiad eto i Tomos goginio yn fyw ar y maes yn Eisteddfod Ceredigion yn Nhregaron 2021.
Gwnaeth nifer fethu ambell gyflwyniad ond dyna fo, does dim amser i bopeth yn ystod wythnos arferol yr Eisteddfod chwaith.
Ar fore Llun yr Eisteddfod Amgen lansiwyd mygydau gyda logo Merched y Wawr arnynt, wedi eu creu gan gwmni ‘Stwff’.
Mae Mair Rees y perchennog yn aelod yng nghangen Casnewydd ac yn garedig iawn yn rhoi rhan o’r elw i Ferched y Wawr.
Rhaid dweud fod ansawdd defnydd y mwgwd o safon uchel a’i fod yn un braf iawn i’w wisgo. Rhaid cadw’n saff gan wneud popeth sydd yn ofynnol yn ystod y Coronafirws.
Roedd ein haelodau yn teimlo chwithdod mawr o beidio bod yn rhan o Sioeau. Mae mis Medi fel arfer yn fis o ailddechrau mynychu sawl cymdeithas yn ein cymunedau ac annog aelodau newydd i ymuno am y tro cyntaf ond ni fydd pethau yn union yr un fath eleni.
Mae Merched y Wawr wedi dilyn pob arweiniad gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a sawl cangen neu glwb wedi cysylltu gyda’r swyddfa’n ganolog i holi am ganllawiau diogelwch.
Mae manylion i bob aelod wedi eu c cynnwys yn rhifyn dwbl cylchgrawn ‘Y Wawr’ a gyhoeddwyd ar y1af o fis M Medi.
Bydd cyfle i bawb ymaelodi yn eu ffordd eu hunain yn ddiogel, a’r unigolyn yn unig all benderfynu pryd i ailymuno â chyfarfodydd, gan fod profiad pawb wedi bod yn unigryw dros y misoedd diwethaf.
Cofion atoch a chofiwch gadw’n saff.