Undeb yn gofyn i weinidogion Cymru: ‘Gweithiwch gyda ni i sicrhau arian ychwanegol i weithwyr y GIG gan San Steffan’
Mae Unsain, yr undeb gwasanaethau cyhoeddus sy’n cynrychioli miloedd o weithwyr gofal iechyd yng Nghymru, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn galw arnynt i gefnogi eu hymgyrch am godiad cyflog gan San Steffan.
Mewn llythyr at Mark Drakeford a Vaughan Gething dywed Unsain Cymru bod ymroddiad ac ymrwymiad gweithwyr gofal iechyd wedi bod yn amlwg yn ystod pandemig Covid a nawr yw’r amser iddynt dderbyn cydnabyddiaeth briodol am eu rôl gyda chodiad cyflog cynnar.
Mae’r llythyr yn gofyn i Mr Drakeford a Mr Gething i ymuno â’r undeb i alw’n gyhoeddus ar Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, a’r Canghellor, Rishi Sunak, i ariannu cyflog teg yn ganolog i weithwyr y GIG.
Dywedodd Paul Summers, prif swyddog iechyd Unsain Cymru: “Pan lwyddodd llawer ohonom i lochesu rhag Covid yn ein cartrefi, roedd gweithwyr gofal iechyd allan yna, yn gofalu am bobl ac yn syllu i wyneb y firws.
“Mae yna ddyletswydd foesol nawr i dalu i staff y GIG yr hyn maen nhw’n ei haeddu a dod â’u codiad cyflog blynyddol, ymlaen.
“Nid yw gweithwyr gofal iechyd yn gofyn am arian mawr, dim ond am gyflogau teg.
“I raddau helaeth, mae Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar Lywodraeth y DU am gyllid ar gyfer codiad cyflog gweithwyr GIG Cymru, dyna pam mae Unsain yn gofyn i’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd alw’n gyhoeddus ar Boris Johnson a Rishi Sunak i roi’r hyn y mae gweithwyr gofal iechyd yn ei haeddu nawr.
“Mae’n ymddangos y bydd y frwydr yn erbyn y firws hwn yn parhau a’r lleiaf y gallwn ei wneud yw sicrhau bod y rhai ar y rheng flaen yn cael eu gwobrwyo’n iawn am y gwaith hanfodol maen nhw’n ei wneud.”
Daw’r cytundeb cyflog cyfredol ar gyfer staff GIG Cymru i ben ym mis Ebrill 2021.