Apwyntio Cadeirydd ac is-Gadeirydd newydd
Yng nghyfarfod diwddar Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri etholwyd y Cyng. Wyn Ellis Jones fel Cadeirydd newydd yr Awdurdod a’r Cyng. Annwen Hughes fel is-Gadeirydd.
Mae’r Cyng. Wyn Ellis Jones yn aelod o Gyngor Conwy, fe’i magwyd ar fferm fynydd yn Nebo, Llanrwst, ble mae’n dal i fyw heddiw.
Mae’n rhedeg cwmni rhostio coffi ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn mynydda a beicio mynydd.
Y Cyng. Annwen Hughes yw’r ddynes gyntaf i’w hapwyntio yn is-Gadeirydd ac mae yn Gynghorydd Gwynedd dros blwyf Llanbedr a Llanfair.
Dywedodd y Prif Weithredwr Emyr Williams: “Dyma amser allweddol i ni yma yn Eryri, fel amryw o sefydliadau sector gyhoeddus, oherwydd y pandemig. Nawr yn fwy nac erioed o’r blaen yw’r amser i barhau gydag arweinyddiaeth cryf a rwyf yn hyderus yng ngallu y Cynghorwyr Wyn Ellis Jones ac Annwen Hughes i’n harwain yn eu swyddi.
“Maent yn cymryd yr awenau ar gyfnod pan yr ydym yn edrych ymlaen at weld prosiectau cyffrous yn cael eu cyflawni megis Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, prosiect LIFE Coedwigoedd Glaw Celtaidd a llawer o gynlluniau eraill sydd eisioes ar droed yn ogystal â lansio ein Cynllun Partneriaeth newydd y Parc Cenedlaethol: Cynllun Eryri”.
Dywedodd y Cyng. Wyn Ellis Jones: “Mae cael fy apwyntio fel Cadeirydd yn fraint anhygoel a rwyf eisiau diolch i’r Aelodau sydd yn ymddiried ynof wrth fy ethol i’r swydd. Hoffwn ddiolch i Owain Wyn am ei gyfnod llwyddianus fel Cadeirydd a gobeithiaf ddod â chymaint i’r rôl ag y mae yntau wedi gwneud dros y dair mlynedd ddiwethaf.
Dywedodd y Cyng. Annwen Hughes:
“Mae’n fraint anhygoel bod y fenyw gyntaf i gymryd rôl is-Gadeirydd. Mae Parciau Cenedlaethol y DU yn dirweddau byw a mae’r perchnogion tir, y cymunedau a diwylliant yr ardal yn graidd sylfaenol i beth sy’n gwneud yr ardal yn lle mor anhygoel. Rwy’n edrych ymlaen i allu gweithio i gefnogi’r Awdurdod i gyflawni ei phwrpasau a thrwy hyn yn gwarchod a chefnogi y cymunedau ac amaethwyr yn Eryri”.
‘Mae’r perchnogion tir, y cymunedau a diwylliant yr ardal yn graidd sylfaenol i beth sy’n gwneud yr ardal yn lle mor anhygoel’