Cyhoeddi canllaw i arwain y ffordd at annibyniaeth
‘Ein cenedl ar gerdded a phobl yn deffro i’r syniad ei fod yn bosib’
Dylai Plaid Cymru fynd ati i gynnal refferendwm i weld beth yw barn pobl Cymru am annibyniaeth, pe bai’r blaid yn ennill grym yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.
Dyna un o brif argymhellion adroddiad cyntaf y Comisiwn Annibyniaeth - grŵp gafodd ei sefydlu gan Blaid Cymru yn 2019 i baratoi’r ffordd tuag at annibyniaeth.
Y gobaith yw defnyddio canlyniad y refferendwm hwnnw i berswadio Llywodraeth San Steffan i gynnal ail bleidlais, lle byddai’r etholwyr yn dewis rhwng y status quo neu’r hoff ddewis a fynegwyd yn y refferendwm cyntaf.
Dechreuodd y Comisiwn Annibyniaeth ei waith ar ôl etholiad cyffredinol y DU ym mis Rhagfyr 2019 ar gais Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Rhoddwyd y dasg iddynt o gynhyrchu argymhellion ar ffyrdd y dylai Llywodraeth Plaid Cymru baratoi ar gyfer cynnal refferendwm ar annibyniaeth.
Mae’r Comisiwn, dan arweiniad y cyn-AS Elfyn Llwyd, hefyd yn dweud y dylid edrych ar y posibilrwydd o greu perthynas gyd-ffederal rhwng Cymru a gweledydd eraill y DU bresennol, yn hytrach nag ymwahanu’n llwyr.
Pe bai’n ennill grym yn y Senedd, mae’r adroddiad yn argymell y dylai Plaid Cymru sefydlu corff newydd - Comisiwn Cenedlaethol Statudol - cyn cynnal y refferendwm cyntaf.
Nod y Comisiwn hwn fyddai sicrhau fod yr etholwyr yn deall yn iawn beth yw’r holl opsiynau cyfansoddiadol sy’n bosib, a’u bod hefyd yn cyfrannu a chymryd rhan yn y broses.
Dywedodd Elfyn Llwyd: “Mae pobl Cymru yn ganolog i’r broses annibyniaeth ac y mae angen iddynt ddeall yn glir pa ddewisiadau sydd ar gael o ran eu dyfodol gwleidyddol.
“Cyn refferendwm ar annibyniaeth, dylid sefydlu Comisiwn Cenedlaethol a Chynulliadau Dinasyddion cysylltiedig er mwyn sicrhau fod pawb yn ymwybodol, yn cymryd rhan ac yn ymwneud â’r broses.”
Yn ôl yr adroddiad mae economi Cymru’n cael ei dal yn ôl ers blynyddoedd a dim ond trwy annibyniaeth y gellir newid hynny.
“Mae economi Cymru yn dioddef gan wendidau strwythurol cronig a osodwyd arni ers amser hir ac maen nhw’n heriol. “Y rheswm pam y methodd Cymru â symud ymlaen yn economaidd yw, nid ei bod yn rhy fach neu’n rhy dlawd, ond ei bod wedi’i chaethiwo o fewn economi a siapiwyd i raddau llethol gan fuddiannau dinas Llundain.
“Profodd y model methiannus hwn na all ddwyn ffyniant i Gymru, ac nad yw’n debyg o wneud hynny i’r dyfodol.
“Byddai Cymru annibynnol yn rhydd i newid hyn. Nid rhanbarth ddarostyngedig i fuddiannau Llundain a De-ddwyrain Lloegr fyddai hi mwyach a fyddai hi ddim ychwaith yn gorfod dilyn polisïau a benderfynir gan Lywodraeth y DU.”
Mae gwersi i’w dysgu o Iwerddon, a oedd gynt yn un o rannau mwyaf ymylol a thlotaf y DU, meddai.
“Y mae bellach yn genedl hyderus, sicr ac annibynnol, un o rannau cyfoethocaf yr ynysoedd hyn, gyda sedd yn y Cenhedloedd Unedig,” ychwanegodd Mr Llwyd.
Mae aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn un o gonglfeini’r adroddiad hefyd:
“Ein barn bendant ni yw y dylai tynged hirdymor Cymru annibynnol fod fel aelod cyflawn o’r Undeb Ewropeaidd,” meddai, er yn cydnabod nad oedd hynny ‘ar y gorwel agos,’ o gofio pleidlais Brexit.
Ond mae’r adroddiad yn argymell ffyrdd y gallai Cymru saernïo perthynas agosach â’r Undeb Ewropeaidd, wrth agosáu at annibyniaeth, ac wedi hynny.
“Dylai’r Comisiwn Cenedlaethol archwilio dichonoldeb bod Cymru, ar wahân i Loegr, yn dod yn aelod o’r Ardal Fasnach Rydd Ewropeaidd (Efta), sy’n golygu aelodaeth o Farchnad Sengl yr UE. Fel aelod o Efta byddai Cymru annibynnol mewn sefyllfa, yn ei hawl ei hun, i negodi cytundeb masnach-rydd â Lloegr.”
Wrth gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Adam Price y bydd y Blaid yn ystyried yr argymhellion dros y misoedd nesaf cyn penderfynu pa rai i’w gweithredu fel polisïau swyddogol.
“Mae rhywbeth yn digwydd yng Nghymru,” meddai. “Mae’r gefnogaeth i annibyniaeth ar ei uchaf erioed. Mae ein cenedl ar gerdded a phobl yn deffro i’r syniad fod annibyniaeth yn bosib. Bydd yr adroddiad hwn yn chwarae rhan hanfodol yn y sgwrs genedlaethol ar annibyniaeth.”
‘Y rheswm pam y methodd Cymru â symud ymlaen yn economaidd yw, nid ei bod yn rhy fach neu’n rhy dlawd, ond ei bod wedi’i chaethiwo o fewn economi a siapiwyd i raddau llethol gan fuddiannau dinas Llundain”