Y Cymro

Syniad am nofel ‘ôl-apocalypta­idd’ yn cipio gwobr y Cyfeillion

-

Cyhoeddwyd y newyddion ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru mai Seran Dolma o Benrhyndeu­draeth yw enillydd cystadleua­eth ar gyfer syniadau am nofelau Cymraeg i oedolion ifanc a drefnwyd gan Gyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru.

Bydd Seran, sy’n fam i ddau o blant 8 a 3 oed, yn derbyn gwobr o £1,000 gan y Cyfeillion, ynghyd â chyfle am gyngor ar sut i ddatblygu ei gwaith yn nofel ar gyfer ei chyhoeddi.

Cafwyd 21o geisiadau ac yn ôl y beirniaid, y cyfansoddw­r a’r cyn-lyfrgellyd­d Robat Arwyn, yr awdur Meinir Pierce Jones, a Gwawr Maelor Williams, darlithydd Addysg Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, roedd yn gystadleua­eth gref. Yn ogystal â’r enillydd dywedodd y beirniaid fod tri ymgais arall yn ‘werth eu cyhoeddi’. Roedd y tri ymgais hynny gan Eurgain Haf, Cynan Llwyd a Llio Maddocks.

Roedd gofyn i’r ymgeiswyr gyflwyno penodau agoriadol nofel

Gymraeg i oedolion ifanc a synopsis o weddill y stori.

Syniad am stori wedi’i gosod yn y dyfodol â’r môr wedi codi’n aruthrol a miloedd o bobl wedi colli eu cartrefi o ganlyniad i newid hinsawdd oedd gan Seran Dolma. Mae Daniel, 15 oed, yn un o’r rhai ffodus, yn byw gyda’i dad ac eraill mewn tŵr lle mae’r ddau lawr isaf, fel gweddill y ddinas, o dan y dyfroedd.

Ond un diwrnod, mae’n gweld merch ifanc â gwallt tywyll, yn codi llaw arno o’r tŵr gyferbyn - tŵr a oedd, i bob golwg, yn hollol wag.

Dywedodd Cadeirydd y panel beirniaid, Robat Arwyn: “Fe wnaeth y nofel ôl-apocalypta­idd hon fy rhwydo o’r frawddeg gyntaf un.” Dywedodd Seran Dolma: “Rydw i mor ddiolchgar i Gyfeillion y Cyngor Llyfrau am y cyfle yma, ac i’r beirniaid am ddewis ‘Y Nendyrau’ fel enillydd y gystadleua­eth. Mae’n hwb anferth i fy hyder i fel awdur, ac yn rhoi gobaith i mi bod yna farchnad i’r nofel ac y bydd yn bosibl ei chyhoeddi yn y pen draw.”

Newspapers in Welsh

Newspapers from Argentina