Buddsoddiad newydd o fwy na £100 miliwn yn economi wledig Cymru
Bydd cannoedd o brosiectau sy’n rhoi hwb i’r economi wledig, gwella bioamrywiaeth a gwella gwytnwch y sector bwyd ledled Cymru yn cael cefnogaeth ariannol trwy fuddsoddiad o £106m ar gyfer y tair blynedd nesaf.
Bydd cynlluniau allweddol sy’n sail i economi wledig, bioamrywiaeth a blaenoriaethau amgylcheddol Cymru yn cael cymorth pellach, parhaus yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru i gynyddu’r cyllid presennol.
Bydd yr arian ychwanegol yn rhoi sicrwydd i gynlluniau hanfodol wrth iddynt geisio adfer yn sgil pandemig Covid-19.
Bydd nifer o gynlluniau newydd hefyd yn cael eu datblygu mewn ymateb i’r pandemig, yn ogystal â heriau eraill fel ymadawiad arfaethedig y DU o’r UE.
Bydd y buddsoddiad cynyddol o fudd i brosiectau sy’n ymwneud ag amrywiaeth o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:
• •
•
• •
Creu ac adfer coetiroedd.
Meithrin gwytnwch ymysg adnoddau naturiol Cymru a gwella bioamrywiaeth.
Helpu busnesau bwyd i wella eu cadwyni cyflenwi a gwytnwch eu busnes.
Cefnogi busnesau fferm i helpu i sicrhau eu cynaliadwyedd Darparu Strategaeth Adfer Covid-19 ar gyfer y sector bwyd a diod.
Bydd buddsoddi hefyd ar draws amrywiaeth o gynlluniau sy’n gysylltiedig â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy, ymateb i argyfwng yr hinsawdd a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.
Dywedodd yr Athro David Lloyd o Arloesi Bwyd Cymru: “Gan fod ein gwaith yn canolbwyntio mor agos ar ddarparu’r adnoddau a’r cymorth sydd eu hangen ar fusnesau Cymru, rydym yn croesawu’r cyhoeddiad am y cynnydd yng nghyllid y CDG, gyda chyllid i barhau am y tair blynedd nesaf.
“Rydym wedi parhau i ymgysylltu ag amrywiaeth o fusnesau drwy gydol yr amser heriol hwn - ac ystyried yr effaith ar lawer ohonynt o ganlyniad i’r pandemig diweddar, rwy’n siŵr y byddant yn croesawu’r cymorth hirdymor y bydd y cynnydd yng nghyllid y Cynllun Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu.”