Y Cymro

DRWY LYGAD BARCUD

Goleuo cyfnod tywyll â chyfrolau am fy arwyr

- Gan Lyn Ebenezer

Byddai’r cyfnod diflas hwn hyd yn oed yn ddiflasach oni bai am lyfrau. A’r wythnos hon rhaid i mi ddatgan fy nyled i ddau awdur am eu cyfrolau ar ddau o’m hoff arwyr llên, Cynan a Caradog Prichard. Mae Gerwyn Wiliams a J. Elwyn Hughes wedi agor y drws yn lletach ar gymeriad a gwaith y ddau.

Un o fanteision mawr bod yn newyddiadu­rwr yw’r cyfleoedd a ddaw - weithiau’n annisgwyl - i gyfarfod ag arwyr. A thrwy fy ngwaith gyda’r Cymro y deuthum i adnabod Cynan a Charadog.

Soniais droeon am y sesiwn gofiadwy honno yn Eisteddfod Aberafan yn 1966 pan wahoddodd Cynan Eirwyn Pontshân a minnau i rannu hanesion (a chwrw) ym mar gwesty’r Deuddeg Marchog, a oedd wedi cau nes i Gynan orchymyn ei ail-agor. Ni wnaf fynd ar ôl y sgwarnog honno.

Ond mae yna ddigwyddia­d arall o fod yng nghwmni Cynan na chofnodais. Ar y ffordd i Iwerddon ar y llong fferi o Gaergybi roedd Jên a minnau ar ddechrau’r 70au. Yno yn y bar dyma sylwi fod Cynan a gŵr a gwraig oedd yn ddieithr i mi yn eistedd nid nepell oddi wrthym. A syndod y byd! Dyma Cynan yn dod draw a’n gwahodd i siario’r bwrdd gydag ef a’i ffrindiau.

Am dair awr cawsom siario atgofion y gŵr mawr, a hynny’n Saesneg gan nad Cymry oedd ei gyfeillion. Uchafbwynt y fordaith fu clywed Cynan yn adrodd ‘Creigiau Aberdaron’ - yn Saesneg! Ie, ‘The Rocks of Aberdaron’.

A dyma fi, ymron hanner canrif yn ddiweddara­ch, yn difaru gwallt fy mhen (Wps!) am na wnes i ofyn am gopi.

Ac yna Caradog. Yn Stafell y Wasg yn y Brifwyl cefais gwmni Caradog ym mhob Eisteddfod bron o 1968 i 1979. Fe fyddwn i’n mynd i Stafell y Wasg yn fwriadol gynnar er mwyn sicrhau fy lle wrth ei ymyl. Roedd gan Caradog a Mati - a Benji’r ci - eu seddi cadw, ac ni feiddiai neb eistedd arnynt.

A diolch i J. Elwyn Hughes am gadarnhau rhywbeth a glywais gan un o gyfeillion mawr Caradog. Roeddwn i’n darlithio yn Ninbych a dyma gyfeirio at fy adnabyddia­eth o Caradog. Soniais am y tro hwnnw y buom yn trafod ei gerdd ‘Y Cyfaill Gwell’. Ynddi mae rhywun yn edliw i rywun arall ryw dro gwael a gyflawnodd. Mae hi’n gerdd sur a chwerw.

Ac fe ofynnais i Caradog unwaith ai llais ei fam oedd yn y gerdd yn ei geryddu ef? Ai cerdd yn darlunio’i euogrwydd ef oedd hi? Tynnodd yn ara ar ei sigaret gan ateb yn freuddwydi­ol bron, ‘Wel ia, debyg.’

Ar ddiwedd y noson dyma Mathonwy Hughes yn fy holi am y digwyddiad hwnnw. ‘Ddeudodd o mai ei fam oedd yn siarad?’ Finna’n ateb, ‘Wel do.’ A Mathonwy’n gwenu cyn

Mae un peth yn siŵr: Mae tipyn o hwyl a hiwmor yn fy helpu i gadw rhagolwg cadarnhaol ac optimistai­dd yn ystod y cyfnod dieithr ‘ma. Wedi’r cyfan, mae nhw’n dweud fod y bobol optimistai­dd yn ein plith yn byw’n hirach! datgelu mai Morris Williams oedd y person dan sylw wedi i hwnnw fynd allan gyda chariad Caradog.

Ac yn ei gyfrol hynod ddiddorol a dadlennol mae

J. Elwyn Huws yn cadrnhau hyn. Y cariad oedd merch o’r enw Eleanor o Dal-y-sarn. Ond fe aeth Morris Williams â hi allan ‘o ran direidi’. A Morris yw targed ei ddicter yn ‘Y Cyfaill Gwell’.

Yn wir, yn ôl Mathonwy fe frifwyd Caradog gymaint fel iddo ystyried mynd yn offeiriad. Ac mae’r gerdd yn cychwyn gyda: ‘Mi drof yn ôl at Dduw...’

Mae’r gerdd i’w chael yn ‘Cerddi Cynnar’. Ac mae gen i gopi o’r gyfrol wedi ei llofnodi gan Caradog ei hun, Fe’i llofnododd i mi yn Eisteddfod Caernarfon 1979, ei eisteddfod olaf. Trysor yn wir.

A diolch am drysorau Gerwyn Wiliams a J. Elwyn Hughes, sydd wedi gwneud llawer i oleuo tywyllwch y cyfnod diflas hwn.

‘A dyma fi, ymron hanner canrif yn ddiweddara­ch, yn difaru gwallt fy mhen am na wnes i ofyn am gopi’

 ??  ??
 ??  ??

Newspapers in Welsh

Newspapers from Argentina