Y Cymro

Oes, mae gobaith tu hwnt i’r mygydau a’r holl ganslo blin... stwffin Nadolig mam!

‘ ’Nath y dosbarthia­dau NCT ddim trafod magu plant mewn pandemig yn naddo?’

-

Ma popeth yn mynd i fod yn iawn! Chi’n gwbod shwt wi mor siŵr o hynna? Achos ma’ mam wedi paratoi ei stwffin Nadolig yn barod.

Os nad hynna yw’r ddau fys mwya alle rhywun roi i Johnson a’r firys, sai’n gwbod beth yw e.

Ni dri chwarter ffordd trwy’r flwyddyn ac, mewn ffordd, ma’ rhai pethau’n dod yn haws (pwy feddylie y byddai bod yn berchen ar fygydau wedi dod yn ail natur a bod ‘da ni fwgwd ar gyfer defnydd bob dydd ac un ar gyfer best erbyn hyn), ond ma’ rhai pethau yn mynd yn anoddach.

Wi’n barod wedi gorfod derbyn na wela i’n rhieni tan flwyddyn nesa nawr (heblaw am un drive-by bach i gasglu’r stwffin falle), a wi newydd orfod gweud wrth ferch chwe mlwydd oed* na fydd y parti tywysoges tylwyth teg uncorn mae hi wedi’i drafod ers misoedd yn digwydd bellach.

Wi’n deall nad dyma brif gonsyrn y pandemig - wi’n nabod pobl sy’n dal i ddiodde o symptomau, saith mis ers dal covid, ac eraill sydd wedi colli aelodau o’u teulu a ffrindiau. Ond mae effeithiau’r cyfnod hyn yn bellgyrhae­ddol.

Mae gweud wrth blentyn sydd ar fin troi’n saith (oed pwysig) bod y dathliadau ar stop, yn anodd. Yn enwedig gan fod prin unrhyw gynlluniau eraill ar y gweill ar gyfer y plant heblaw mynd i’r ysgol, a’r bygythiad o orfod mynychu ysgol gartref Mrs Sears eto. ’Nath y dosbarthia­dau NCT ddim trafod magu plant mewn pandemig yn naddo?

Yn ffodus i fi, wi’n credu bydd y ferch yn hapus cyn belled â bod na ddigon o anrhegion, a party bags. A gyda rhagolygon chwe mis llywodraet­h Prydain yn golygu y gall hyn effeithio ar fy mhen-blwydd nesa i a ‘mod i mor agos â hyn i gael tantrum am y peth, alla i weud yn ddiflewyn-ar-dafod ei bod hi’n well person na fi.

* h.y. fy merch i, wi ddim yn mynd o gwmpas y lle yn gweud wrth blant bach random bod eu partis wedi’u canslo.

 ??  ??
 ??  ??

Newspapers in Welsh

Newspapers from Argentina