‘Bu gorymdeithiau ar draws trefi a dinasoedd Cymru gyda phobl o bob oed, pob tras, o bob rhyw a chred’
Os yw argyfwng y Coronafirws wedi dangos unrhyw beth i ni mae wedi amlygu y manteision a ddaw i Gymru pan fydd ganddi reolaeth dros ei materion ei hunan.
Ac mae’r gallu i greu rhwyd o ddiogelwch er mwyn amddiffyn pobl Cymru rhag y pandemig yn dystiolaeth gref fod angen mwy o rymoedd ar Gymru, nid llai.
Mae llawer o bobl hefyd wedi sylwi - efallai am y tro cyntaf - fod manteision cadarnhaol iawn i Gymru o fod yn berchen ar ei sefydliadau democrataidd ei hun, y Senedd a Llywodraeth Cymru.
Gellid dadlau fod y sgyrsiau ry’n ni wedi eu cael am ddemocratiaeth ac annibyniaeth Cymru wedi bod yn llygedyn o obaith yng nghanol tywyllwch y pandemig. Oblegid, mae wedi arwain nifer yn fwy o bobl i gwestiynu unwaith eto ddyfodol Cymru fel cenedl, ac os ydym ni mewn safle gwell i wneud penderfyniadau droson ni ein hunan.
A mae hyn yn bwynt arwyddocaol o ran sut ydyn ni’n ystyried gwleidyddiaeth Cymru dros y misoedd i ddod, wrth arwain at Etholiadau’r Senedd nesaf a thu hwnt.
Y cwestiwn pwysig i Blaid Cymru, wrth gwrs, yw annibyniaeth, a mae rhywbeth wedi bod yn digwydd yng Nghymru am gyfnod bellach.
Nid yw annibyniaeth Cymru bellach yn cael ei harwain gan Blaid Cymru yn unig.
Bu gorymdeithiau ar draws trefi a dinasoedd Cymru gyda phobl o bob oed, pob tras, o bob rhyw a chred - yn glymblaid go iawn o undod - yn gorymdeithio gyda’i gilydd. Llwyddodd YesCymru i gael dros 10,000 o bobl i gefnogi annibyniaeth mewn llythyr agored ar-lein. Mae’r gefnogaeth yr uchaf iddo fod erioed, a’r polau diweddar yn dangos bod 30 y cant bellach yn cefnogi annibyniaeth - gyda chefnogaeth o 58 y cant ymhlith pobl ifanc 16 i 34 oed.
Mae annibyniaeth wedi symud o’r ymylon i brif ffrwd dadl wleidyddol Cymru.
Dyma oedd y cyd-destun pan sefydlais i, yn ôl yn anterth Etholiad Cyffredinol gaeaf y llynedd, y Comisiwn Annibyniaeth.
Eu tasg oedd paratoi llwybr i Gymru gyflawni ei hannibyniaeth. Mae’r comisiwn bellach wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau a’i argymhellion.
Disgrifiwyd y Comisiwn Annibyniaeth gan Robin McAlpine, o sefydliad y Common Weal yn yr Alban, fel ‘trobwynt’ ar gyfer y mudiad annibyniaeth yng Nghymru.
Un o brif argymhellion yr adroddiad yw y dylid deddfu ar gyfer Mesur Hunan-Reolaeth (Cymru) i baratoi Cymru ar gyfer annibyniaeth yn sgil ethol