‘Ymgais i ail-ganoli grym o Gaerdydd i San Steffan’
Galw ar Lundain i ailfeddwl ynglŷn â’r Bil ar ddyfodol y fasnach mewnol
Mae’rLSeneddLwediLcyhuddoLLlywodraethLSanLLLLLLLLLLLL SteffanLoLymyrraethL‘ddigroesoLyngLnghanol L pandemigLbyd-eang”,LaLcheisioLail-ganoliLrheolaethLoL GaerdyddLiLSanLSteffan.LL
Mae’r Senedd wedi cyhoeddi ymateb i Fil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU, sy’n amlinellu cynlluniau ar gyfer rheoli masnach y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mewn datganiad dywedodd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd: “Yn groes i naratif Llywodraeth y DU, mae’r Pwyllgor o’r farn nad oes darpariaethau yn y Bil sy’n rhoi pwerau newydd i’r Senedd.
“I’r gwrthwyneb, mae’n nodi’n benodol feysydd newydd fel rhai sydd y tu allan i bwerau’r Senedd.”
Roedd y datganiad yn dilyn tystiolaeth gan Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, i’r pwyllgor. Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Mick Antoniw AS: “Rydym yn cydnabod ac yn cefnogi’r angen am farchnad fewnol yn y DU ar ôl gadael yr UE. Ond nid y Bil hwn, fel y mae wedi’i ddrafftio, yw’r ffordd o gyflawni’r amcan hwnnw.
“Y fframweithiau cyffredin y mae pob llywodraeth wedi bod yn gweithio ac yn cydweithredu arnynt ers 2017 yw’r dull cywir.
“Fel y mae, gall y Bil greu isadran ddiangen ac mae’n ymddangos ei fod yn ymgais i ail-ganoli rheolaeth i San Steffan.
“Mae’n tanseilio’r ymddiriedaeth a’r ewyllys da rhwng llywodraethau, sy’n ymyriad digroeso yng nghanol pandemig byd-eang. Rydym yn annog Llywodraeth y DU i ailystyried telerau’r Bil.”
Sut y gallai Bil y Farchnad Fewnol weithio’n ymarferol
Un enghraifft o’r ffordd y gallai’r Bil weithio yw os yw deddfwriaeth y Senedd yn gwahardd gwerthu bwyd wedi ei addasu yn enetig (GM) yng Nghymru, ond nad oes gwaharddiad o’r fath yn Lloegr.
Byddai egwyddor ‘cydnabyddiaeth gilyddol’ yn golygu y byddai’n gyfreithlon i gynhyrchwyr yn Lloegr werthu bwyd GM yng Nghymru, er gwaethaf y gwaharddiad yma.
Fel y cyfryw, bydd y Bil yn sefydlu terfyn yn y cyfansoddiad ar y graddau y mae deddfwriaeth y Senedd mewn grym.
Mae’r Bil hefyd yn rhoi pŵer i Lywodraeth y DU ddarparu cymorth ariannol mewn unrhyw ran o’r DU i hyrwyddo blaenoriaethau Llywodraeth y DU, yn hytrach na blaenoriaethau datganoledig.
Bydd y Pwyllgor yn parhau i drafod y Bil a’i oblygiadau i Gymru yn ystod yr wythnosau nesaf.