‘Mi ydw i’n un-ar-hugain oed y penwythnos yma ac yn edrych ymlaen at ddathlu gyda fy ffrindiau newydd - dwi’n addo y gwna i fyhafio!’
Dwi’mLynLgwybodLlleLiLddechra’,LmaeLcymaintL wediLdigwyddLynLystodLyLmisLdiwethafLymaL -LdwiLwediLbodLynLfwyLprysurLnagLerioedLo’rL blaen!L
Mae’r gwahaniaeth rhwng cael pum mis o wneud dim byd ac ymlacio adra â’r bwrlwm dwi wedi’i brofi yma’n anhygoel, does dim rhyfedd ’mod i wedi blino’n lan!
I’r rheini ohonoch chi sydd ddim yn gwybod, fis yn ôl, cychwynnais fy mlwyddyn dramor yn Alicante, Sbaen, a hyd yn hyn, dwi’n cael modd i fyw!
Mi ydw i’n ddigon ffodus i gael cyfle i fyw gyda chwpwl Sbaeneg o’r enw David a Margarita (na, dim y pitsa!) ac mi wnes i neidio ar y cyfle i gael fy nhrochi yn y Sbaeneg tra yn eu cwmni nhw.
Ond, dwi erioed wedi bod yn un sydd yn dda gyda daearyddiaeth felly pan ddywedon nhw eu bod nhw’n byw yn Elche, ’nes i gymryd mai rhan o ddinas Alicante oedd hwnnw. Tydw i erioed, chwaith, wedi bod yn berson sydd yn deall trafnidiaeth cyhoeddus Prydain, heb sôn am unrhyw wlad arall.
Felly, pan sylweddolais fod Alicante dros hanner awr i ffwrdd o Elche a’r Brifysgol yn bellach fyth, gallwch chi goelio ’mod i wedi cynhyrfu braidd.
Erbyn hyn, dwi’n mynd a dod ar y trên yn rhwydd ond dwi’m wedi mentro ar unrhyw fws eto. Fory mae gennai wers yn y Brifysgol am naw o’r gloch y bore, ac i fynd yno, mae’n rhaid i mi ddod o hyd i fws cynnar... pob lwc i mi.
Fel soniais i, mae fy ngwersi yn y Brifysgol eisoes wedi dechrau ond dim ond ambell un sydd yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb oherwydd y feirws.
Maen nhw wedi amnewid gwersi ar y campws gyda gwersi ar-lein felly mae yna system newydd a chymhleth wedi cael ei sefydlu, ac i ddweud y gwir dydw i ddim yn meddwl bod neb yn siŵr sut mae’n gweithio.
Mae bywyd pobl Sbaeneg yn symud ar gyflymder tipyn arafach na gwledydd eraill dwi’n tybio, ac mae fy ngwersi’n aml yn dechrau chwarter awr yn hwyr. Ychwanegwch broblemau technegol at hynny a chyn bo hir, mae hanner awr wedi mynd a’r unig beth i unrhyw un ei ddweud ydi: “ydych chi’n gallu fy nghlywed i?”.
Dwi wedi cyfarfod degau o fyfyrwyr o bob cwr o’r byd ac wedi gwneud ffrindiau da gyda chriwiau o Ffrainc, yr Eidal, Gwlad Pwyl a llawer mwy. Mae siarad gyda phobl o gefndiroedd hollol wahanol yn hynod ddiddorol ac oherwydd yr elfen ieithyddol dwi wedi chwerthin sawl gwaith ar y diffyg dealltwriaeth rhyngom ni.
Does yr un ohonom yn siarad Sbaeneg yn ddigon da i gyfathrebu’n hollol rhwydd, tydi fy Ffrangeg i na’u Saesneg hwythau ddim digon da chwaith i gyfleu ac esbonio’n ddidrafferth ond rywsut rydym i gyd yn cyd-dynnu’n arbennig.
Rydym yn ein dyblau’n chwerthin weithiau wrth fethu deall gair mae’r person arall yn ei ddweud- mae’n wir mai chwerthin ydi’r unig iaith fyd-eang! Dwi’n falch erbyn rwan nad ydw i’n byw yn Alicante ei hun hefo’r holl fyfyrwyr eraill oherwydd mae yna noson allan bron iawn bob noson yn ddi-ffael, a dwi’m yn gallu dweud ‘na’ wrth unrhyw beth cymdeithasol!
Mae un o fy ffrindiau pennaf yma yn dod o Wlad Belg a hi ydi un o’r bobl mwyaf doniol i mi gyfarfod erioed. Mae hi’n ddylanwad drwg wrth iddi fynd allan i’r tafarndai bob noson a chymdeithasu ar y traeth tan oriau mân y bore, 8 o’r gloch y bore weithiau! Pan dwi’n mynd allan gyda’r criw dwi’n gorfod cysgu ar soffas gwahanol gan fod Elche’n rhy bell a does dim trenau’n mynd yno ar ôl amser penodol.
Mi ydw i wrth fy modd gyda’r teimlad o fyw mewn dinas, mae yna bethau’n digwydd drwy’r amser, pobl o gwmpas, rhywbeth newydd i’w weld. Pan fydd amser gen i dwi jysd yn cerdded, heb bwrpas, o amgylch Elche ac yn ceisio dod o hyd i rywbeth newydd i’w weld. Mae’r lle’n fyw gyda sgwrsio a chwerthin.
Yr unig beth dwi ddim yn ei hoffi yma ydi’r diffyg distawrwydd. Hyd yn oed yn ystod oriau man y bore gallwch glywed traffig y ddinas yn gwibio heibio, pobl yn canu eu cyrn yn rhwystredig a beiciau modur yn sgrechian i stop. Mae’n fyddarol weithiau. Ar adegau fel rhain, dwi’n ysu am gael bod adra’ yn nistawrwydd y dyffryn, lle gallaf feddwl heb gael fy aflonyddu, cau fy llygaid a llithro i drwmgwsg heb gael fy neffro’n sydyn gan yrrwr diamynedd yn canu corn y car. Ta waeth, peth bach yw hynny o gysidro’r holl brofiadau anhygoel dwi eisoes wedi eu profi yma.
Mi ydw i’n un-ar-hugain oed y penwythnos yma ac felly dwi’n edrych ymlaen at gael dathlu fy mhen-blwydd yn Alicante gyda fy ffrindiau newydd. Mi wna i adael i chi wybod beth ddigwyddith yn y golofn nesaf - dwi’n addo y gwna i fyhafio!
‘Ar adegau fel rhain, dwi’n ysu am gael bod adra’ yn nistawrwydd y dyffryn, lle gallaf feddwl heb gael fy aflonyddu, cau fy llygaid a llithro i drwmgwsg’