£14 miliwn ar gyfer sector chwaraeon a hamdden Cymru
Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cyhoeddi pecyn cyllid i gefnogi sector chwaraeon a hamdden Cymru.
Bydd y ‘Gronfa Adfer Chwaraeon a Hamdden’ yn cefnogi’r sector gyda’r heriau parhaus sydd wedi deillio o bandemig COVID-19 ac yn sicrhau cynaliadwyedd yn y tymor hwy.
Nod y gronfa yw darparu cymorth hanfodol i glybiau a sefydliadau chwaraeon, darparwyr annibynnol a digwyddiadau chwaraeon sydd wedi wynebu heriau sylweddol yn ystod yr argyfwng ac sy’n parhau i ddioddef effeithiau difrifol. Bydd y gronfa’n helpu i ysgogi arloesedd mewn canolfannau hamdden awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau hamdden ac yn ychwanegu at y gronfa caledi ar gyfer llywodraeth leol.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Yr Arglwydd Elis-Thomas “Rwy’n falch ein bod yn gallu arwain y ffordd yng Nghymru wrth ddiogelu a chynnal y rhan bwysig iawn hon o’n cymdeithas drwy ddarparu’r pecyn cymorth hwn wedi’i dargedu.
“Daeth chwaraeon ledled Cymru i ben yn gwta ledled Cymru ar ddechrau’r argyfwng, a gwelwyd yr effeithiau ar unwaith. Rydym hefyd yn cydnabod bod y sector yn wynebu heriau sylweddol yn y tymor hwy - sy’n gysylltiedig ag ailagor yn raddol â chapasiti isel. Dw i’n gobeithio y bydd y gronfa hon yn helpu gyda chynllunio ar gyfer y tymor hir a chynaliadwyedd yn y sector chwaraeon a hamdden - sector sy’n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sicrhau cenedl iach a chorfforol weithgar.”