Y Cymro

Chwilio am arwyr y pandemig

-

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn galw am help i ddod o hyd i bobl fwyaf hynod y wlad, drwy eu henwebu ar gyfer un o Wobrau Dewi Sant.

Bellach yn eu hwythfed flwyddyn, nod y gwobrau cenedlaeth­ol hyn yw dathlu gwir arwyr Cymru. Eleni, er mwyn adlewyrchu’r cyfraniad a wnaed gan gynifer o bobl yn ystod y pandemig bydd gwobr newydd i gydnabod gweithwyr hanfodol.

Bydd y panel dyfarnu hefyd yn ystyried enwebiadau ym mhob un o’r categorïau ar gyfer pobl sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn ystod y pandemig - p’un ai ydy hynny drwy weithredoe­dd caredig neu anhunanol i gefnogi unigolyn, cymuned neu fusnes - gan helpu’r ymdrech genedlaeth­ol.

Dyma gategorïau’r gwobrau - Gweithiwr Critigol (gweithiwr allweddol); Dewrder; Ysbryd y Gymuned; Diwylliant a Chwaraeon; Busnes; Arloesedd, Gwyddoniae­th a Thechnoleg; Dyngarol; a Gwobr Arbennig y Prif Weinidog.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Ni fyddem wedi gallu ymateb i’r pandemig heb ymroddiad a gwaith caled ein gweithwyr hanfodol ar hyd a lled Cymru. I gydnabod hynny, rwy wedi ychwanegu categori newydd at y rhestr o Wobrau Dewi Sant.

“Rwy’n galw ar bawb i’n helpu i gydnabod ein harwyr bob dydd...

“Gyda’ch help chi, gallwn ddathlu hoelion wyth ein cymuned, pobl sy’n ysbrydoli ac yn arwain newidiadau cadarnhaol, pobl eithriadol ym maes chwaraeon, gwyddonwyr sy’n gwthio’r ffiniau o ran yr hyn yr ydym yn credu y gallwn ni ei gyflawni, ein harloeswyr a’r gwneuthurw­yr diwylliant sy’n ein helpu i ddeall ein byd mewn ffyrdd newydd, a’r bobl hynny sy’n mynd hyd yn oed y tu hwnt i’r filltir ychwanegol, ac sy’n ein hatgoffa nad oes angen i rywun wisgo clogyn i fod yn arwr.”

Mae’r enwebiadau bellach ar agor tan Hydref 15, a gellir eu cyflwyno drwy wefan Gwobrau Dewi Sant

Newspapers in Welsh

Newspapers from Argentina