Ailagor yr enwog... Neuadd Pantycelyn!
‘Adeilad eiconig o fewn y gymuned Gymraeg ei hiaith’
Mae neuadd breswyl enwocaf Cymru wedi ailagor ei drysau wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i Brifysgol Aberystwyth ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd newydd.
Ar ei newydd wedd mae Neuadd Pantycelyn, sydd wedi ei thrawsnewid yn dilyn buddsoddiad o £16.5m, yn cynnig llety modern i hyd at 200 o fyfyrwyr a chartref i gymuned myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol.
Mae pob un o’r ystafelloedd gwely wedi eu hadeiladu o’r newydd ac yn cynnwys ystafell ymolchi en-suite, mae rhai o ystafelloedd mwyaf adnabyddus y Neuadd - y Lolfa Fawr, y Lolfa Fach a’r Ystafelloedd Cyffredin Hŷn ac Iau wedi eu gweddnewid, ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) wedi dychwelyd i’r neuadd i swyddfa newydd sbon.
Ac, yn unol â dymuniadau caredigion y neuadd, bydd y traddodiad o gyd fwyta yn y Neuadd yn parhau. Bydd brecwast a phryd bwyd gyda’r hwyr ar gael yn y Ffreutur o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Yn ogystal â buddsoddiad y Brifysgol ei hun, derbyniodd y prosiect gyfraniad o £5m gan raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, ac ail-agorwyd y neuadd gan Weinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams AS, ynghyd ag Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Elizabeth Treasure.
Dywedodd Yr Athro Treasure; “Mae hwn yn ddiwrnod mawr i ni yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn benllanw taith bwysig i ni. Wrth ailagor Pantycelyn rydym yn datgan yn glir ein hymroddiad at y Gymraeg a diwylliant Cymru, ac at ddarparu cartref cyfoes a chyffrous i do newydd o fyfyrwyr sydd wedi dewis ymuno gyda ni yma yn Aberystwyth, a phrofi rhagoriaeth academaidd ein Prifysgol, mewn cymuned lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol dydd i ddydd. Mae’n gyfle hefyd i ni gydnabod a diolch i bawb a gyfrannodd at hanes cyfoethog y neuadd unigryw hon, yn fyfyrwyr, yn gyn-fyfyrwyr, yn gyfeillion ac yn aelodau staff, ac sydd wedi chwarae eu rhan wrth wireddu’r freuddwyd o ail-agor Pantycelyn.”
Dywedodd Kirsty Williams: “Mae Neuadd Pantycelyn yn adeilad eiconig o fewn y gymuned Gymraeg ei hiaith ac mae wedi bod yn rhan o wead yr iaith yn lleol ers degawdau, yn ogystal â bod yn bair o dalent i fyfyrwyr sy’n mynd ymlaen i chwarae rhan bwysig yng Nghymru ac yn rhyngwladol...Mae Pantycelyn, a chymuned ehangach Aberystwyth, yn bwysig wrth feithrin y defnydd o’r Gymraeg ym mhob sefyllfa a chan bawb sy’n medru rhywfaint o’r iaith.
“Rwy’n falch iawn o allu cefnogi adnewyddiad Neuadd Pantycelyn ac edrychaf ymlaen at weld hwn yn gartref i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith am flynyddoedd lawer i ddod.”
Agorwyd Pantycelyn am y tro cyntaf yn 1951 fel neuadd i fechgyn a daeth yn Neuadd Gymraeg ym 1974.