Y Cymro

Penodi cynrychiol­wyr i hyrwyddo Cymru i’r byd

Gobeithio sbarduno mwy o gyfleoedd i fewnfuddso­ddi a hyrwyddo allforion

-

Mae tri chynrychio­lydd sy’n angerddol dros Gymru wedi cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo’r wlad dramor.

Mae’r Gweinidog Materion Rhyngwlado­l, Eluned Morgan, yn dweud ei bod yn ‘anrhydedd’ iddi eu penodi i’w swyddi.

Mae’r cynrychiol­wyr yn rhan o Strategaet­h Ryngwladol Llywodraet­h Cymru, a phrif elfen honno yw codi ymwybyddia­eth am Gymru ledled y byd.

Trwy weithio gydag unigolion amlwg ac uchel eu parch, mae Llywodraet­h Cymru’n gobeithio tanio ac ennyn diddordeb Cymry Alltud ynghyd â chyn-fyfyrwyr a chyfeillio­n Cymru mewn gwledydd eraill.

Gobeithir y bydd hyn yn sbarduno mwy o gyfleoedd i fewnfuddso­ddi a hyrwyddo allforion Cymru. Y cynrychiol­wyr yw:

Koji Tokumasu. Bu Koji yn byw yng Nghaerdydd am ddwy flynedd yn y 1970au. Roedd Koji yn allweddol i ddenu Cwpan Rygbi’r Byd i Japan yn 2019 ac mae’n gyn-lywydd Asia Rugby.

La-Chun Lindsay. Symudodd La-Chun i Gymru i fod yn rheolwr gyfarwyddw­r GE Aviation Wales yn 2015 - y fenyw gyntaf i ymgymryd â swydd ar y lefel honno yn y cwmni.

Aled Miles. Cafodd Aled ei eni a’i fagu ym Mhen-ybont a symudodd i UDA yn 2006 i ymgymryd â swydd CEO yn Cineflex Camera Systems LLC. Syber-ddiogelwch yw ei arbenigedd, ac ef ar hyn o bryd yw Pennaeth a CEO Sauce Labs.

Dywedodd y Gweinidog Cysylltiad­au Rhyngwlado­l a’r Gymraeg, Eluned Morgan: “Rwy’n hyderus y bydd y tri chynrychio­lydd cyntaf yn ein helpu i agor drysau a chodi’n proffil ledled y byd. Maen nhw wedi cael eu penodi am eu bod gyda’r gorau yn eu priod feysydd.

“Mae’n anrhydedd i ni bod Koji Tokumasu, La-Chun Lindsay ac Aled Miles wedi cytuno i gario’r faner droson ni a byddan nhw’n ein helpu i wireddu ein hamcanion o ran mewnfuddso­ddi ac allforio gan gyfrannu hefyd at godi ymwybyddia­eth am Gymru a hyrwyddo’r meysydd y mae Cymru’n arbenigo ynddynt.

Bydd yr unigolion hyn yn cael y teitl swyddogol “Cynrychiol­ydd Llywodraet­h Cymru” ac yn helpu i agor drysau ac yn meithrin perthynas â gwledydd eraill ar draws y byd.”

Cafodd y Gweinidog rith-gyfarfod â’r cynrychiol­wyr wythnos yma a bydd yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â nhw i gadw bys ar byls eu gwaith.

Caiff pedwerydd cynrychiol­ydd ei benodi yn yr hydref fel rhan o’r garfan gyntaf o gynrychiol­wyr. Ni fyddant yn cael cyflog ond byddant yn cael eu costau teithio a chynhaliae­th.

 ??  ??

Newspapers in Welsh

Newspapers from Argentina