‘Roedd yn anodd rhagweld beth fyddai’n digwydd, a dydw i ddim yn fenyw ddewr, anufudd na mentrus’
Dyddiau yng nhgwmni aelodau Gwrthryfel Difodiant ar strydoedd ein prif ddinas
Am y pum diwrnod cyntaf ym mis Medi, roedd aelodau o Wrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion, neu XR) yn cynnal protestiadau di-drais yng Nghaerdydd. Y nod oedd rhoi pwysau ar ASau o Gymru yn San Steffan i gefnogi Mesur yr Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol sydd newydd ei gyflwyno yn San Steffan. Dyluniwyd y Mesur i sicrhau bod allyriadau carbon, cynhesu byd-eang, colli rhywogaethau a difrod i’r ecosystem yn cael eu hystyried ym mhob penderfyniad gan Lywodraeth San Steffan. Agwedd arall ar yr ymgyrch oedd ennill sylw yn y Wasg, a rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd am yr argyfyngau. Hefyd, roedd ymgais gan XR i gefnogi a hyrwyddo lleisiau’r rhai sy’n arfer cael eu gwthio i’r cyrion, heb gael eu clywed. Ond sut brofiad oedd bod yn un o’r cannoedd ar y strydoedd? Yma, mae un ohonynt, Philippa Gibson o XR Aberteifi, yn edrych yn ôl ar ei phrofiadau.
‘Mae.rhaid.i.fi.gyfaddef.bod.cryn.ofn.arnaf.cyn.mynd.i.gymryd.rhan..Roedd.yn.anodd. iawn rhagweld beth fyddai’n digwydd, a dydw i ddim yn fenyw ddewr, anufudd na mentrus. Roedd y gair holl bwysig ‘di-drais’ yn gysur - fel roedd fy sicrwydd bod argyfwng yr hinsawdd a’r argyfwng ecolegol yn fygythiadau real iawn sy’n peryglu bywydau pawb.
Er mwyn paratoi, mynychais lawer iawn o sesiynau hyfforddi cyn mynd. Mae XR yn ardderchog o ran trefnu cyrsiau o’r fath, ac roeddent yn cael eu darparu ar Zoom am gyfnod hir cyn i ni i gyd ddod i arfer â Zoomio trwy adeg y Clo Mawr. Roedd yn bosibl cael fy hyfforddi i gymryd rhan mewn gweithredoedd anuffudd-dod di-drais, i fod yn dyst swyddogol.i.arestiadau,.i.ddysgu.am.fy.hawliau.cyfreithiol,.i.fod.yn.rhan.o.grŵp.‘affinedd’. i weithredu, i ofalu am les protestwyr eraill, ac i gael rhyw glem ar dawelu pethau mewn sefyllfaoedd.lle.bo.gwrthdaro..Cytunais.ymlaen.llaw.i.fod.yn.rhan.o.grŵp.Affinedd.o’r. enw ‘Dyfed v. Goliath’, i fod yn y tîm lliniaru gwrthdaro, ac i roi sgyrsiau yn Gymraeg neu Saesneg am yr argyfyngau ac am fudiad XR.
Er hyn oll, roeddwn yn dal yn ansicr beth fyddai’n fy wynebu. Y peth cyntaf oedd cael fy anfon gyda ffrind i ofalu am les protestwyr oedd wedi dringo adeilad tal, gosod baneri enfawr a chloi eu hunain yno. Arhoson ni yno trwy’r bore, heb lawer i’w wneud, nes i orymdaith fawr o brotestwyr eraill gyrraedd yn y prynhawn. Yno clywais fand Samba XR am y tro cyntaf, a chael plataid o’r bwyd blasus iawn a oedd wedi’i gludo i’r safle.ar.gefn.beiciau.ac.yn.cael.ei.roi. i’r protestwyr i gyd. Daeth y band a’r.bwyd.yn.brofiadau.dymunol.trwy. gydol yr wythnos.
Y noson honno, cefais fy mlas cyntaf o fod yn rhan o ddefod ardderchog arall, sef ‘cynulliad y bobl’. Mae hyn yn ffordd hynod o effeithiol i grwpiau mawr wneud penderfyniadau gan glywed llais pawb, ac mae’n cael ei ddefnyddio’n gyson gan y mudiad.
Y.diwrnod.wedyn.bu.areithiau.ardderchog.gan.siaradwyr.amrywiol.o.flaen.y.Senedd,.a. ‘boddi torfol’ wrth i ni i gyd orwedd ar y grisiau i dynnu sylw at y ffaith bod lefel y môr yn codi a bod Caerdydd yn debyg iawn o gael llifogydd difrifol yn y blynyddoedd nesaf. Yn y.prynhawn,.bu.gorymdaith.trwy’r.ddinas.i.godi.ymwybyddiaeth.am.y.broblem,.a.finnau’n. gyfrifol.am.chwifio.un.o.dentaclau.octopws.enfawr...
Canolfan y BBC oedd canolbwynt y bore wedyn, i amlygu’r angen i’r cyfryngau wneud yr argyfwng yn fwy amlwg o lawer. Mae Covid-19 wedi cael sylw haeddiannol bob dydd, ond nid yw argyfwng yr hinsawdd yn cael y sylw sydd ei angen.
Gyda dau ddiwrnod i fynd, dewisais weithio yn y gegin, er mwyn osgoi bod yn rhan o weithred a allai alw am ddewrder, sef rhwystro lorïau ar eu ffordd i losgydd ysbwriel, er mwyn amlygu’r angen inni beidio cynhyrchu cymaint o ysbwriel a llygredd. Dewis anghywir.i.fi!.Ar.ôl.gweithio’r.bwyd,.roedd.angen.inni.dorri.trwy.linell.yr.heddlu,.yn........................ ddi-drais wrth gwrs, i gludo’r bwyd i’r protestwyr dewr ond llwglyd. Aeth popeth yn iawn, ac roeddem yn ddiolchgar bod heddlu Cymru mor waraidd wrthon ni o’u cymharu â’r protestiadau yn Llundain.
Gorymdaith enfawr trwy’r ddinas ar y diwrnod olaf a ddaeth â gweithredu’r wythnos i ben,.gan.ymuno.â.llu.o.wahanol.fudiadau.dan.faner.‘Cyfiawnder’..Trwy.gydol.yr.wythnos,. roedd ymddygiad ystyriol a phwyllog y protestwyr yn drawiadol iawn.’