Yn galw’r ‘BBC Pronunciation Unit’ ...dewch ar frys!
Cymru. Ei statws a’i sefyllfa wleidyddol, ei hacen a’i hiaith. Mae’n ddirgelwch pur iddyn Nhw.
Yn enigma llwyr. Does ganddyn Nhw naill ai ddim syniad neu ddim diddordeb. Rydyn Ni’n gwybod hyn erioed, wrth gwrs, ond mae’r pandemig rywsut wedi ategu eu di-glemdra.
Pan ddaeth cyfyngiadau lleol y cymoedd i’r fei, clywsom y cyfryngau Seisnig ar eu gwaethaf wrth geisio ynganu Rhondda Cynon Taf.
Neu ‘Taff’ yn ôl ein gwasanaeth newyddion NI o Gaerdydd, er bod y cyngor lleol wedi mabwysiadu’r sillafiad Cymraeg ar ei logo swyddogol ers sawl blwyddyn bellach. Cafwyd ymddiheuriad gan gyflwynydd rhaglen frecwast BBC Radio 4, Today, wedi i Nick Robinson fwrdro Ronda Cinon Taff, a chafwyd sori ar Twitter (yn Gymraeg, chwarae teg) gan yr Albanes Carrie Gracie am ei hymateb haerllug “I hope they don’t do more Welsh” wrth i BBC News glustfeinio’n fyw ar ddatganiad dyddiol y prif weinidog Drakeford. Chênj o’r holl sylw i areithiau Nicola Sturgeon, ‘mwn. A ddoe ddiwethaf, roedd y Fam Ynys ar goll o gornel ucha Cymru mewn llun o fap y DU ar eitem newyddion Sky News am y coronabondibethma.
Roedd criw Seiclo, gyda llaw, yn ardderchog eto wrth gyflwyno rhywfaint o normalrwydd byd chwaraeon inni’n fyw ar S4C bob pnawn.
Chwerthin wedyn o deall bod y fath beth â’r BBC Pronunciation Unit yn bodoli ers y 1940au a bod ‘special policies have been developed for such bilingual regions as Wales, the treatment of place-names generally requiring English pronunciations for English-based names (Bridgend, Newport) and Welsh pronunciations for Welsh-based names (Ystrad Mynach, Llanfair)” meddai encyclopaedia.com.
Na, wn i ddim beth sydd mor drybeilig o anodd am ‘Newport’ chwaith.
Mae angen cymorth i ohebwyr a chyflwynwyr Cymraeg weithiau hefyd.
Nid ynganu - mae hwnnw’n ddigon di-fai. Ond rhyw uned trosi-nid-cyfieithu’n-slafaidd o adroddiadau Saesneg BBC Llundain. Mae sawl gohebydd yn baglu ar y gair ‘National’, ac yn camddyfynnu’r ‘Yswiriant Cenedlaethol’, ‘Archifau Cenedlaethol yn Kew’ a hyd yn oed ‘y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol’ yn lle’r ‘Gwladol’ cywir.
Siawns mai Cymru ydi’n ‘cenedlaethol’ ni? Waeth beth ddywed y Gorfforaeth...