Fu’n ymchwilio i ddigwyddiadau un bore
Bu i nifer ohonoch rwy’n siŵr deithio ar hyd yr M4 rhwng Caerdydd a Chasnewydd. Wrth deithio fe basiwch chwi un o ardaloedd llai adnabyddus Cymru sy’n cyfarfod a’r môr, sef gwastadeddau Gwent. Gwastatir yn ymestyn rhwng dwy ddinas.
Mae’r archeolegydd Stephen Rippon yn disgrifio nodweddion y tirlun anhygoel yma. Darganfuwyd olion traed megalithig yma, ac fe ddraeniodd y Rhufeiniaid y dirwedd i ganiatáu i’w ceffylau yng Ngaerleon bori yno.
Yng nghyfnod y Normaniaid sefydlwyd cyfres o ffosydd ar hyd y tirlun ac erbyn y 13eg ganrif crëwyd y patrwm a welir heddiw. Gelwir y ffosydd yn lleol yn ‘reens’ - o’r hen air Cymraeg am ffos, rhewyn.
Dyma ardal sy’n llawn hanes. Ond ar fore erchyll yn Ionawr 1607 dinistriwyd arfordir Cymru a Lloegr, ym marn nifer, gan Tsunami neu ymchwydd stormus enfawr. Mae’r hanes yn un diddorol iawn ac os cewch gyfle mae tystiolaeth i’r digwyddiad erchyll i’w weld yn yr ardal hyd heddiw.
I drigolion y cyfnod gwelwyd y don enfawr fel cosb gan Dduw ac mae teitl pamffled a gyhoeddwyd yn fuan wedyn yn adlewyrchu hyn:‘ God’s Warning to his people of England’ gan William Jones, Brynbuga. Cyhoeddwyd hefyd ‘A True Report of Certaine Overflowings’ gan Edward White.
Mae White yn rhybuddio: “Os bydd y cystudd hwn a osodwyd ar ein gwlad yn awr, yn fwy difrifol na hynny o’r blaen, defnyddiwch hi: crynwch, rhybuddiwyd chwi ymlaen llaw, byddwch yn edifar, er mwyn osgoi cosb fwy difrifol.”
Gwerthwyd pamffled White ym mynwent St Paul’s a defnyddiwyd arwydd dryll wrth ddrws gogleddol Sant difrodwyd sylfeini eglwys y Santes Fair a barhaodd i ddirywio wedyn.
Mae’n ymddangos ar fap John Speed o Gaerdydd yn 1610, ond symudwyd y prif wasanaethau i eglwys St John, sy’n parhau yn eglwys fywiog heddiw.
Adeiladwyd Theatr Tywysog Cymru ym 1878 ar leoliad yr hen eglwys, i gofio amdani, ac mae amlinelliad yr eglwys hynafol i’w weld ar y wal tu allan. Erbyn heddiw mae’n dafarn boblogaidd cyn gêm ryngwladol.
Mae cofeb yn eglwys y Santes Fair yn Allteuryn (Goldcliffe) yn cofnodi Ionawr XX 1606 yn ddyddiad ar y trychineb (ond oherwydd y calendr Julian dechreuodd y flwyddyn newydd ar Ŵyl
Fair ar Fawrth 25ain felly y dyddiad i ni heddiw yw Ionawr 30ain 1607.)
Mae’r cofeb yn nodi colled o tua £5,000 yn y plwyf (tua £650,000 heddiw), sy’n dangos pa mor gyfoethog oedd yr ardal, ac yna yn nodi bod 22 person wedi boddi. Awgrym o flaenoriaethau’r cyfnod efallai.
Mae yna storïau anghredadwy am ddewrder ac achubiaeth wyrthiol. Difethwyd siroedd yr arfordir ar hyd De Cymru a Gwlad yr Haf. Mae adroddiadau’n enwi Cas-gwent fel man lle achoswyd ‘llawer o niwed gan drais y dyfroedd’. Dinistriwyd matiau o Iwerddon ar gyfer eu gwerthu yn ffair Sant Pedr ym Mryste a boddwyd pobl yn eu gwelyau .
Adroddir hanes llaethferch yn sir Fynwy yn godro ei gwartheg yn y bore. Wrth i’r dŵr lifo’n gyflym llwyddodd i ddringo i ben banc a bu raid iddi aros yno tan wyth o’r gloch y bore wedyn. Roedd perygl iddi farw ond ‘fe wnaeth Duw Hollalluog o’i drugaredd a’i