Y Cymro

Erchyll ar ddiwrnod o Ionawr

-

gyda’r fermin hyn yr ochr arall.’ Cofnododd White.

Mae’r awdur yn synnu nad oedd yr anifeiliai­d yn ymladd ei gilydd wrth iddynt gysgodi ar y tir uchel.

Fe wnaeth y mwyafrif o bobl osgoi’r llif trwy ddringo coed a bu raid i rai fyw yno am dridiau, nes i flinder neu newyn achosi iddynt syrthio i’r dyfroedd.

Y tristwch mwyaf yw darllen am y rhai yn y coed yn gweld eu gwragedd, plant a gweision yn nofio yn y dŵr budr i chwilio’n ofer am noddfa. Gwyliodd rai eu tai yn dymchwel o dan rym y llif a’u bywoliaeth yn diflannu.

Bu un dyn dall nad oedd wedi gallu sefyll ar ei draed am ddeng mlynedd yn ffodus iawn. Chwalwyd ei fwthyn ond fe lwyddodd i ddal ei afael ar drawst yn arnofio ar y dyfroedd, chwythodd y gwynt ef yn ddiogel i’r lan.

Un o’r mwyaf ffodus oedd bachgen 6 neu 7 oed. Llwyddodd i nofio am ddwy awr gan fod ei got hir wedi ymledu ar wyneb y dŵr a’i helpu i arnofio’n well. Roedd ar fin suddo o dan y don ond arnofiodd maharen tew, gwlanog heibio. Llwyddodd y bachgen i ddal ei afael ar y gwlân a gadael i’r gwynt ei chwythu i’r lan, lle achubwyd ef.

Llwyddodd mam yn Sir Gaerfyrddi­n - ac mae’r awdur yn nodi bod ewyllys menyw bob amser yn barod mewn eithafion - i achub ei phedwar plentyn trwy osod ei hun a’r pedwar bychan yn ddiogel mwn cafn bara ac arnofio ar y llif nes cyrraedd y lan ‘trwy ragluniaet­h dda Duw.’

Mae yna ddisgrifia­dau o’r dulliau gorwyllt a ddefnyddio­dd y trigolion i ffoi: rhai ar gefnau gwartheg marw, rhai ar blanciau pren, rhai trwy ddringo coed, rhai trwy aros ar gopaon serth ac eglwysi uchel ac eraill gyda cheffylau cyflym a rhai ar gychod.

Er iddo ddigwydd dros bedwar can blynedd yn ôl mae’r awduron yn llwyddo i gyfleu erchyllter­au’r llifogydd a thrwy’r disgrifiad­au manylach gallwn ni uniaethu a rhannu gofid ein cyndeidiau.

Cred nifer, gan fod y llygad dystion yn disgrifio’r don fel mynyddoedd uchaf y byd a bod tebygrwydd i ddisgrifia­dau heddiw o tsunami, mai dyna oedd.

Ond barn eraill, megis Rose Hewlett, mai ymchwydd llanw achosodd y dyfrod, mae ystod llanw aber yr Hafren yn 13 metr, yr ail fwyaf yn y byd. Mae ffenomenon boblogaidd y ‘Severn Bore’, sef ton yn teithio ar hyd dyffryn Hafren sy’n caniatáu i’r dewraf syrffio ar hyd yr afon, yn amlwg heddiw. Beth bynnag yr achos ni all leihau ofn ac arswyd y bore hwnnw yn Ionawr 1607.

 ??  ?? Marc y llifogydd ar eglwys St Thomas, Y Redwig 1607 (Chris Harris)
Marc y llifogydd ar eglwys St Thomas, Y Redwig 1607 (Chris Harris)
 ??  ??
 ??  ?? Cofeb Goldcliffe Robin Drayton CC BY-SA 2.0
Cofeb Goldcliffe Robin Drayton CC BY-SA 2.0
 ??  ??
 ??  ??

Newspapers in Welsh

Newspapers from Argentina