Nid culni yw hyn - mae wir yn amser inni wneud rhywbeth
Yn fuan ar ôl y Clo Mawr y sefydlodd dwy o aelodau Merched y Wawr, Angharad Fflur a Gwerfyl Eidda, y dudalen Facebook Curo’r Corona’n Coginio er mwyn annog pobl i rannu eu ryseitiau a’u cynghorion.
Ymhen rhai wythnosau roedd 15,000 wedi ymaelodi â’r grŵp, gan greu cymuned gyfeillgar sy’n ymestyn ar draws y byd. Ffrwyth y dudalen honno yw’r gyfrol hon sy’n cyflwyno cyfran fechan yn unig o gynnwys y dudalen ac yn dathlu’r creadigrwydd yn ein ceginau a safon ein cynnyrch Cymreig.
Daeth yn amlwg yn gynnar iawn bod y rhai oedd yn cyfrannu ryseitiau a lluniau i’r dudalen yn rhoi pwys mawr ar brynu’n lleol a defnyddio cynnyrch Cymreig yn y gegin, ac roedd hynny’n sbardun i’r bartneriaeth nawdd gyda Hybu Cig Cymru a Cywain.
Mae ‘Curo’r Corona’n Coginio’ ar gael nawr o siopau llyfrau ledled Cymru ac ar y we drwy wefan y wasg www.carreg. gwalch.cymru
Disgrifiwch dŷ gwyliau. Plasdy glan môr? Palas gwydr i gorlannu golygfeydd arfordirol?
Oes, mae rhai o’r rheiny yn fy etholaeth i fel mewn llawer rhan o Gymru. Ond mi wyddom bod tŷ gwyliau lawn mor debyg o edrych fel unrhyw dŷ cyffredin arall. Tŷ teuluol, tŷ ar stad, tŷ teras... hen dŷ cyngor. Yn amlach na pheidio yn cael eu colli am byth o’r farchnad leol.
Ydi, mae perchnogaeth ail gartrefi fel tai gwyliau wedi bod yn treiddio’n ddyfnach ac yn ddyfnach i lawer o’n cymunedau ac yn newid natur y cymunedau hynny tu hwnt i adnabod.
Rwy’n cofio gwneud poster i roi ar wal fy llofft yn yr 80au – ‘Nid yw Cymru ar werth!’ mewn paent du, ar hen arwydd ‘For Sale’. Dyna oedd un o ymgyrchoedd mawr Cymdeithas yr Iaith ar y pryd. Wel, dros 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae rhannau o Gymru’n dal i deimlo eu bod nhw ar werth i’r sawl sydd a’r waled fwyaf neu’r pocedi dyfnaf, ac yn rhy aml, dyw’n pobl ifanc ni a phobl ar gyflogau cyffredin yn ein cymunedau ni ddim yn gallu cystadlu.
Yr hyn sy’n arwyddocaol rwan, rwy’n credu, ydi bod mwy a mwy o bobl wedi sylweddoli hynny. Un arall o nodweddion y flwyddyn ryfeddol hon yw hynny. Drwy y cyfnod clo daethom i dreulio llawer mwy o amser gartref, yn ein cymunedau. Daethom i adnabod y cymunedau hynny’n well. Sylwodd bobl ar batrwm perchnogaeth tai o’u cwmpas... cynifer oedd yn wag ar un llaw, ond ar y llaw arall cynifer o bobl oedd yn mynd a dod iddyn nhw o bell - o wlad arall, hyd yn oed - ar adeg pan nad oeddem ni’n cael mynd fwy na thafliad carreg o gartref.
Mae hyn yn cynnig cyfle newydd, oherwydd waeth pa mor glir ein gweledigaeth ni ym Mhlaid Cymru am yr angen i weithredu ar ail gartrefi, mae cael gwir gefnogaeth y cyhoedd i wneud hynny yn allweddol. Rwy’n grediniol bod pobl bellach nid yn unig yn cefnogi dymuniad Plaid Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn fel mater o frys, ond maen nhw’n ein hannog i wneud.
Yn rhy aml, mae pobl wedi camddehongli y nod: “mae polisi o wrthwynebu ail gartrefi yn ‘wrth Saesnig’.” Y gwir amdani ydi bod llawer o berchnogion ail gartrefi mewn llefydd fel Sir Benfro yn byw yn ninasoedd mawr de Cymru.
Neu beth am “mae hyn yn erbyn twristiaeth, a does fiw i ni fygwth twristiaeth oherwydd ei bwysigrwydd economaidd!” Na, nid rhywbeth sydd ‘yn erbyn twristiaeth’ ydi hyn, ond rhywbeth fyddai’n dod ag elfen newydd o reolaeth dros dwristiaeth, er mwyn sicrhau mwy o fudd lleol o dwristiaeth, nid llai. Rwy’n clywed rhai arweinwyr twristiaeth yng Nghymru rwan yn annog camau i wneud twristiaeth yn fwy cynaliadwy, ym mhob ystyr y gair.
Rwy’n croesawu hynny’n fawr. Wel, siawns bod cynaliadwyedd ein marchnad dai a pharhad ein cymunedau yn elfen sy’n greiddiol i hynny.
Na, nid ryw gulni Cymreig yw bod eisiau gwarchod ein stoc dai a chefnogi ein cymunedau.
Culni yw methu gweld bod camau fel hyn bellach yn cael eu cymryd ar hd hyd a ll lled d y b byd, d bod angen hynny. Felly gadewch i ni ddefnyddio lleol a chenedlaethol gyda hyder a phwrpas. lunio deddfwriaeth cynllunio newydd all atal parhaol yn dŷ gwyliau heb ganiatâd, tra’n gynaliadwy. Nid ‘twristiaeth’ yw perchnogaeth i ni edrych ar yr holl fodelau sy’n gweithio yn Mae’n argyfwng. Mae’n hen bryd gweithredu.
‘Dyw’n pobl ifanc ni a phobl ar gyflogau cyffredin yn ein cymunedau ni ddim yn gallu cystadlu’
oherwydd dd pwerau trethiant Gadewch i ni newid tŷ preswyl cefnogi twristiaeth tŷ haf! Gadewch rhyngwladol.