Y ffrae dros y defnydd o’r Saesneg
Dyma ddetholiad o bennod o’r llyfr ar ei gyfnod fel Prif Weithredwr S4C
“Ffrae arall oedd â thipyn o egni emosiynol ynghlwm â hi oedd honno yn ymwneud â’r defnydd o Saesneg ar S4C.
Mae canllawiau S4C i gynhyrchwyr ynglŷn â chynnwys Saesneg o fewn rhaglenni Cymraeg, wastad wedi osgoi dweud ‘na, dim Saesneg ar unrhyw gyfri’, ac mae hynny wedi bod yn broblem i rai o gefnogwyr y Sianel.
Roeddwn yn credu’n eitha’ cryf yn yr angen i gynhyrchydd gael tipyn go lew o ryddid i ddilyn ei weledigaeth ei hun, fel roeddwn i wedi cael, ac roedd hynny’n cynnwys y rhyddid i ddehongli’r pwnc dan sylw mewn modd creadigol. Ond rywsut daeth y pwnc yn fater dadleuol unwaith yn rhagor...
Er mai Radio Cymru oedd targed gwreiddiol Cylch yr Iaith, y grŵp a ffurfiwyd i yrru’r ymgyrch yma yn ei blaen, cyn bo hir iawn daeth S4C yn darged hefyd.
Wrth i S4C amddiffyn hawl cynhyrchwyr i gynnwys Saesneg o fewn rhaglenni mewn sefyllfaoedd lle’r oedd yna gyfiawnhad golygyddol i hynny roedd hynny’n cael ei ddehongli fel cyfarwyddyd gan S4C i gynhyrchwyr i wneud mwy o ddefnydd o’r Saesneg.
Un noson, fe benderfynais wylio’r gwasanaeth ar ei hyd. Doedd hyn ddim yn beth arferol oherwydd galwadau eraill gyda’r nos ac roeddwn yn tueddu i wylio rhaglenni fesul un, naill ai ymlaen llaw, neu wedi’u recordio.
Y noson honno mi ges i dipyn o syndod o ddarganfod fod pob yn ail raglen roeddwn yn ei gwylio yn cynnwys yr hyn roeddwn i fy hun yn ei ystyried yn ormod o Saesneg.
O edrych ar bob rhaglen yn unigol, gallwn weld fod yna gyfiawnhad golygyddol posibl i’r elfen o gynnwys Saesneg, ond o roi’r cyfan at ei gilydd, un ar ôl y llall, roedd hi’n hawdd gweld sut y gallai gwylwyr gael y teimlad bod natur S4C yn newid. Dyma oedd sail y neges y gwnes i ei chyflwyno mewn cyfarfod arbennig o’r holl gynhyrchwyr a gynhaliwyd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ychydig yn ddiweddarach. Mae pob cynhyrchydd yn anochel yn ystyried bod eu rhaglenni’n unigryw. Mae gwthio’r ffiniau, ym mhob ystyr, yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo. Ond pan oedd cynhyrchydd pob rhaglen yn gwneud hynny yr un pryd, y canlyniad oedd newid natur y gwasanaeth.
Roeddem felly yn gofyn i gynhyrchwyr feddwl yn ofalus am sut i gyflwyno’r cynnwys yn Gymraeg, gan
gyfyngu defnydd o’r Saesneg i sefyllfaoedd oedd yn wirioneddol angenrheidiol.
Chwarae teg, fe newidiodd pethau’n sydyn wrth i bawb ystyried cwestiwn iaith eu rhaglenni mewn cyd-destun ehangach.
Doedden ni’n dal ddim am wahardd pob defnydd o’r Saesneg a doedd hynny ddim yn plesio pawb ond rydw i’n dal i gredu mai dyna sy’n gywir ac mai’r pris am gadw’r rhyddid yna ydi’r angen i swyddogion y sianel, yn ogystal â chynhyrchwyr, warchod y ffin yn ofalus.
Mater arall oedd pa fath o Gymraeg ddylid ei ddefnyddio o fewn rhaglen ac roeddwn yn llwyr gefnogol i ganiatáu i raglenni ddod o hyd i gywair ieithyddol priodol ar gyfer pa gynulleidfa bynnag roedden nhw’n anelu ati.
Roeddwn yn cefnogi pob ymdrech i sicrhau fod Cymry oedd yn teimlo ‘nad oedd eu Cymraeg yn ddigon da’ byth yn dweud hynny pan oedd gwahoddiad yn dod iddyn nhw gymryd rhan.
Roedd y stori fod un o arwyr rygbi Cymru yn y 70au wedi cael rhywun yn beirniadu ei iaith wrth fynd o flaen camera ac wedi penderfynu na fyddai byth eto’n gwneud cyfweliadau Cymraeg, wedi gwneud argraff fawr arna’ i.”
‘...o roi’r cyfan at ei gilydd, un ar ôl y llall, roedd hi’n hawdd gweld sut y gallai gwylwyr gael y teimlad bod natur S4C yn newid.’