Y Cymro

Draig o’r enw Môr gan Jilly Bebbington (cyf. Aled Islwyn)

Codi arian hanfodol i’r hosbis i blant, Tŷ Hafan

-

Ers iddo agor yn 1999 mae Tŷ Hafan, yr elusen sydd yn cynnig gofal a chymorth i blant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr, wedi cefnogi dros 850 o blant a’u teuluoedd. Fel rhan o ymgyrch codi arian at yr elusen bwysig hon mae un o’r gwirfoddol­wyr, Juliet Bebbington, wedi ysgrifennu cyfrol hwyliog i blant cynradd a bydd yr holl elw yn cael ei roi i’r hosbis.

Mae Draig o’r enw Môr yn stori am ddraig las, unig sy’n dod o’r môr ac sydd ond yn gallu cael ei gweld gan rai sy’n credu mewn dreigiau.

Mae’r ddraig fach fusneslyd yn mynd i chwarae gyda phlant yr hosbis yn Nhŷ Hafan ac yn mwynhau helpu’r plant a’r staff. Mae’r gyfrol yn dangos gwerth bod yn garedig, i gydymdeiml­o a bod yn sensitif i anghenion pobl eraill, ac yn bwysicaf oll, i ddangos cariad.

Mae’r awdures, Jilly Bebbington, wedi bod yn gweithio fel cynorthwyy­dd gwirfoddol yn Nhŷ Hafan ers dros 20 mlynedd.

Meddai: “Rwyf wedi darllen a dyfeisio gymaint o storïau i’r plant yn yr hosbis dros yr 20 mlynedd rwyf wedi bod yn gwirfoddol­i yno.

“Er y rhesymau trist y tu ôl i fodolaeth yr hosbis mae’n lle

(Y Lolfa, £4.99)

hwyliog iawn - y lle mwyaf hwyliog i mi gweithio ynddo erioed. Mae ’na ymdeimlad o carpe diem yn perthyn i’r lle. Mae’r hosbis yn gwneud gwaith mor bwysig gyda’r plant a’u teuluoedd, roeddwn yn awyddus iawn i godi arian iddyn nhw. Mae hyd yn oed yn fwy pwysig nawr, gan fod holl gynlluniau codi arian yr elusen wedi bod ar stop ers Covid-19.”

Meddai Aled Islwyn, a gyfieithod­d y llyfr i’r Gymraeg: “Mae codi ymwybyddia­eth o waith gwerthfawr Tŷ Hafan yn arbennig o bwysig ac amserol ar y funud, am fod peth sylw wedi’i roi’n ddiweddar i sefyllfa ariannol fregus y sefydliad. Dyw Tŷ Hafan ddim yn rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Elusen ydyw, ac yn ogystal â derbyn ein cefnogaeth ariannol, mae’n bwysig ein bod yn gwerthfawr­ogi cyfraniad y lle i’n cymdeithas, ac i bawb sy’n ei gynnal. Roedd yn bleser cael bwrw iddi i addasu’r straeon hynod wreiddiol hyn i’r Gymraeg. Maen nhw’n annwyl ac yn smala, ac yn rhoi cip annisgwyl inni ar waith llesol Tŷ Hafan.....gallwn ymdeimlo â naws a dyhead y lle yn y storïau hyn.”

Mae’r gyfrol yn gydweithre­diad rhwng y Lolfa a Thŷ Hafan a bydd holl elw’r gyfrol yn mynd tuag at yr hosbis.

 ??  ??
 ??  ??

Newspapers in Welsh

Newspapers from Argentina