Nofel i’ch ysgwyd... byddwch yn dal eich gwynt tan y dudalen olaf Y Lolfa, £8.99
Mared Llywelyn
Adolygiad:
Os ydych chi wedi syrffedu efo’r llyfrau ar erchwyn y gwely, ac yn chwilio am nofel i’ch deffro a’ch ysgwyd, mae ‘Y Dial’ yn siŵr o ddiwallu eich anghenion.
Dyma o nofel sy’n eich tynnu i bob math o drosedd a thrais ar hyd strydoedd y brifddinas.
Dilyniant i ‘ Y Düwch’ yw ‘ Y Dial’, ac mae’n syniad darllen nofel gyntaf y gyfres cyn troi at dudalennau’r ail. Dilyniant i ddigwyddiadau’r nofel honno sydd yma, a’u heffeithiau ar y prif gymeriadau, y Ditectif Arolygydd Emma Freeman a’r Ditectif Arolygydd Thomas Thomas, neu Tom Tom fel mae pawb yn ei adnabod.
Yn ‘Y Düwch’ roedd mwy o ffocws ar Tom Tom, ond yn ‘ Y Dial’ mae’r sylw ar bersbectif Emma Freeman, er bod sawl cwmwl du yn dilyn y ddau gymeriad wrth iddynt fynd ar drywydd sawl llofrudd seicopathig.
Wedi i Tom Tom gael rheolaeth dros ei ddibyniaeth ar y ddiod gadarn, ac wrth i
Emma barhau i ddelio â llofruddiaeth ei gŵr (a’r dienyddiad hwnnw wedi ei ddarlledu yn fyw ar y rhyngrwyd) mae’r ddau yn darganfod cysur yng nghwmni ei gilydd ac yn magu perthynas ddwfn yn broffesiynol ac yn bersonol. Calon y stori yw perthynas Emma a Tom Tom. Fflam sy’n mudlosgi ar ddechrau’r nofel ond wrth i ddigwyddiadau dyrys ddatblygu mae eu teimladau at ei gilydd yn datblygu yn yr un modd. Dialedd sydd wrth wraidd gweithredoedd erchyll y llofruddwyr yma (oes, mae mwy nag un)
Yr hyn mae rhywun yn gofyn wrth ddarllen yw a allai rhywun fyth gyfiawnhau’r fath erchyllterau. Mae’r awdur yn crafu ar gydwybod o bryd i’w gilydd wrth geisio egluro sut aeth ambell i gymeriad ar hyd ffordd mor dywyll, megis yr asasin galon oer, Mr Du. Ar y llaw arall nid oes unrhyw esgus na chyfiawnhad i weithredoedd iasol y cogydd Christine Vaizey. Mae’n debyg mai bwgan mwyaf y nofel yw bygythiad parhaus yr Albaniaid.
Ers i Emma a Tom Tom rwydo’r Maffia, gan chwalu un o’u cyrchoedd cyffuriau anferthol, maent yn cynllwynio i dalu’n ôl yn y modd mwyaf dramatig posib, a hynny yn un o theatrau enwocaf Cymru: Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm. Tom Tom yw’r abwyd ac mae’r pwysau i gyd ar ysgwyddau Emma i achub y sefyllfa. Sut mae Dafydd yn mynd i ennill yn erbyn Goliath?
O’r bennod syfrdanol gyntaf byddwch yn dal eich gwynt tan y dudalen olaf, yn gobeithio am ryw fath o ddiweddglo hapus. Ond beryg y bydd y ddau dditectif yn edrych dros eu hysgwydd am amser hir i ddod, gan fod rhywun yn rhywle wastad angen dial.