Cyfrol i Gyfarch Yr Athro Howard Williams - E. Gwynn Matthews (gol.) Y Lolfa £7.99
Adolygiad::
Wele’r wythfed yn y gyfres nodedig o ysgrifau ‘Astudiaethau Athronyddol’.
Y tro hwn penderfynwyd cyhoeddi cyfrol o saith ysgrif gan ysgolheigion blaenllaw i gyfarch Yr Athro Emeritws Howard Williams, gynt o Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, ar achlysur ei ben-blwydd yn saith deg mlwydd oed. Mae Howard Williams yn un o Lywyddion Anrhydeddus yr Adran hon, a bu’n hynod hael ei gefnogaeth a’i gyfraniad dros y blynyddoedd.
Athroniaeth wleidyddol yw prif faes Howard, a phenderfynwyd comisiynu casgliad o ysgrifau’n canolbwyntio ar yr union feysydd y gwnaeth yntau ei gyfraniad pwysicaf ynddynt, syniadaeth tri o’r cewri, sef Karl Marx, Georg Wilhelm Friedrich Hegel ac yn bennaf oll Immanuel Kant. Bu cyfraniad Howard i’r meysydd hyn yn un nodedig dros ben, a hynny mewn nifer o ieithoedd gwahanol.
I gyflwyno’r gyfrol cawn fywgraffiad cryno o’r Athro Williams a anwyd ym mhentref Ffos-y-Ffin ger Aberaeron yn 1950. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Aberaeron a Choleg y Brifysgol Llundain lle bu’n astudio Economeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol, gan raddio yn haf 1971. Priododd y flwyddyn cynt a mudodd Howard a’i wraig newydd i ddinas
Durham lle’r aeth Howard ymlaen i ymchwilio ar gyfer ei radd meistr ac yna ei radd doethuriaeth am draethawd ymchwil anghyffredin o ddisglair oedd yn cymharu Marx a Hegel.
Enillodd Howard Williams ei fywoliaeth yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, rhwng 1974 a 1979, cyn mudo i Aberystwyth a threulio gweddill ei yrfa’n darlithio yno o fewn hen adran nodedig Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Enillodd gadair bersonol yno ym 1992 ac, yn dilyn ei ymddeoliad, gwnaeth gyfraniad neilltuol at ddatblygiad gwiw y Coleg Cymraeg Cenedlaethol newydd anedig. Ac erbyn hyn mae’r teulu wedi ail-gartrefi yng Nghaerdydd, cartref eu tri mab disglair a’u teuluoedd.
Hollol briodol mai ysgrif gan Howard Williams ei hun yw’r gyntaf yn y gyfrol, sef erthygl sylweddol a gwreiddiol sydd yn dadansoddi rhai o syniadau Karl Marx yn ei gyhoeddiadau cynharaf.
Yna ail-gyhoeddir adolygiad gan E. Gwynn Matthews, golygydd y llyfr presennol, o gyfrol gyda’r teitl ‘Hunaniaeth yn y Byd Cyfoes’, gan Francis Fukuyama a welodd olau dydd yn 2018, crynodeb hwylus sydd yn gwneud nifer o bwyntiau trawiadol.
I ddilyn mae erthygl gan David Sullivan sydd yn dadansoddi’n fanwl agweddau’r athronydd Almaeneg enwog Hegel at genedlaetholdeb.
Mae’n hollol briodol i fab Howard, y Dr Huw Lloyd Williams, ysgolhaig disglair sydd bellach yn uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac un o bileri’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gyfrannu at y gyfrol i gyfarch y tad a fu’n gymaint o ysbrydoliaeth iddo drwy’r blynyddoedd. Testun ysgrif Huw yw ‘Kant, Rawls a gobaith mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol’.
Kant a chrefydd yw pwnc yr ysgrif nesaf o waith Dafydd Huw Rees, ac yna cawn drosiad o’r Almaeneg i’r Gymraeg gan Dafydd Huw Rees a Garmon Iago o waith Kant ei hun sef ‘Beth yw Goleuedigaeth?’. Ac i gloi’r gyfrol mae Garmon Iago yn ystyried gweithiau dau feddyliwr amlwg, sef Theodor Adorno (1903-69) a Michel Foucault (1926-84), fel eu hamlygir yn eu hagweddau at Kant.