Y Cymro

Taith ddychmygol yn ôl i’r chweched ganrif a’r Hen Gymru

-

Y Pibgorn Hud - Gareth Evans

Gwasg Carreg Gwalch, £8.50

Mewn cyfnod lle mae teithio’n anodd, dyma nofel sy’n mynd â ni a’n dychymyg ar daith dros dir a môr yn ôl i’r chweched ganrif.

Prydain. Y flwyddyn 552. Ynys ranedig. Ynys lawn tensiwn. Ynys sy’n simsanu ar ôl i’r pla sgubo drwy’r tir. Y cleddyf sy’n rheoli bellach.

Ac mae’n rhaid i bawb ddilyn y drefn, yn enwedig plant a merched.

Pawb heblaw merch ddeuddeg oed o’r enw Ina. Mae’n nofel gyffrous wedi’i seilio ar waith ymchwil manwl ac yn taro goleuni ar un o gyfnodau mwyaf anhysbys ond tyngedfenn­ol yr Hen Gymry.

Dilynwn Ina ar daith gythryblus o’i chartref yng Ngwent trwy diroedd deheuol y Brythoniai­d (de-orllewin Lloegr heddiw) a thros y môr i wladfa’r Hen Gymry yng Ngogledd Sbaen: gwladfa, yn wahanol i Lydaw, na lwyddodd i ddal ei thir y tu hwnt i’r Oesoedd Canol.

O fewn y fframwaith hanesyddol hwn ceir stori oesol dwymgalon, llawn troeon trwstan, am gyfeillgar­wch a theyrngarw­ch.

Mae’n nofel hanesyddol sy’n gyfredol ei naws ac yn darlunio byd ble’r mae’r hen drefn - yn wladol a rhyngwlado­l - yn dadfeilio. Yn gweu drwy’r stori ceir amryw o themâu sy’n berthnasol iawn heddiw.

“Byth ers sylwi ar arwydd caffi bar yn dwyn yr enw ‘Maeloc’ yn Santiago de Compostell­a, prif ddinas Galisia, a dysgu bod Brythoniai­d wedi ymfudo i ogledd orllewin Sbaen yr un cyfnod a bu’r ymfudo i Lydaw, mae’r syniad bod cymuned o Hen Gymry wedi ymsefydlu yno wedi magu chwilfryde­dd a phrocio’r dychymyg,” meddai’r awdur, Gareth Evans.

Newspapers in Welsh

Newspapers from Argentina