Blodau sy’n gyferbyniad claear i weddill eurliw’r hydref Hardd ac anhunanol... a llawn haeddu ei le yn ein gerddi
Eisiau bod yn arbenigwr yn yr ardd? Dilynwch hanesion @ GeralltPennant!
Dyma i chi ddewis.
Sibrwd tonnau, glas awyr a glasach fôr, neu adwy stad ddiwydiannol.
Rhag ofn eich bod yn dal rhwng dau feddwl, mae’r tonnau’n anwesu traed mynyddoedd Nelson, Seland Newydd.
Dyma i chi gwestiwn, pwy oedd y capten aeth bob cam i Seland Newydd ond heb chwarae yn yr un gêm brawf? Ie ie, Capten Cook, ac mae yna ddolen, braidd yn wantan, rhwng mordaith Capten Cook ac ambell i adwy ar stadau diwydiannol.
Y tro nesa y byddwch chi’n mynd heibio i’r fath adwy, edrychwch os oes yna lwyni Hebe wedi eu plannu yno.
Dim ond un ymhlith dwsinau o rywogaethau sydd wedi cyrraedd ein gerddi ni o Seland Newydd ydy’r Hebe. Diolch Capten Cook. Y drwg yn y caws ydy fod llawer o blanhigion Seland Newydd wedi mynd yn blanhigion ‘corfforaethol’.
Planhigion i wisgo ymylon meysydd parcio, canol cylchfannau ac adwyon stadau diwydiannol. Meddyliwch am Phormium, llin Seland Newydd a’i ddail gwridog, cleddyfog, Pittosporum, sy’n ildio’n ufudd i lafnau’r tociwr trydan, a’r Hebe, y carped tynn o ddail a blodau.
Tua chant o rywogaethau Hebe sydd i’w cael ac mae pob un, ag eithrio dwy neu dair, yn gynhenid i Seland Newydd. Un o’r goreuon ydy Hebe albicans sy’n blodeuo’n ewyn claerwyn yr adeg yma o’r flwyddyn.
Dyma’r Hebe o fynyddoedd Nelson ym mhen gogleddol Ynys y De. Mae’n llwyn bythwyrdd, a’i ddail mân wedi addasu i ddygymod â brath yr heli a gwres yr haul.
Mae’r elfen wydn yn ei gyfansoddiad yn ei wneud yn blanhigyn di-fai ar gyfer gerddi arfordirol, a dyna sut yr enillodd ei blwy.
Mae hefyd ymysg y criw dethol o blanhigion sydd wedi derbyn yr AGM, Award of Garden Merit gan yr RHS.
Nid ar chwarae bach y caiff planhigyn y dyfarniad hwnnw, ac mi all garddwr fod yn sicr nad cam gwag fydd prynu planhigyn sy’n deilwng o’r fath glod.
Ffurf sy’n boblogaidd mewn gerddi Cymreig ydy Hebe ‘Great Orme’.
Na, chewch chi mo hwn yn tyfu’n drwch ar Y Gogarth, ond mi fentraf ddweud ei fod yn ddewis poblogaidd yng ngerddi’r ardal honno.
Mae’n llaesach ei dyfiant na H. albicans, a’i flodau’n binaclau cochion.
Mae hwn eto ymysg detholion yr AGM.
Blodau crog, llaes, ydy prif nodwedd Hebe ‘Gauntletti’, blodau sy’n dresi porffor hyd at chwe modfedd o hyd.
Planhigion hardd ac anhunanol ydy teulu’r Hebe. Gallant ddygymod â’r rhan fwyaf o briddoedd, heblaw am dir sur, gwlyb. Anaml bydd angen eu tocio ac mae gwawn lliw’r blodau yn gyferbyniad claear i weddill eurliw’r hydref.
Oes, mae angen planhigion ar gyrion stadau diwydiannol, ac oes, mae angen croesawu teulu’r Hebe yn ôl i fwy o’n gerddi.