Nofwraig wyllt ...a’r plastig yn ein hardd leoedd anghysbell
Bydd nofwraig wyllt yn ymweld â phob un o 15 parc cenedlaethol y Deyrnas Unedig fel rhan o alldaith wyddonol ar y cyd â Phrifysgol Bangor.
Tra bydd Laura Sanderson yn ymgymryd â’r her nofio bydd yn casglu cannoedd o samplau dŵr a fydd yn cael eu dadansoddi yn y brifysgol er mwyn ymchwilio i bresenoldeb microplastigion.
Ofnir bod y darnau bychan hyn o blastig rwan yn bresennol hyd yn oed yn y lleoliadau mwyaf anghysbell yn ein parciau cenedlaethol. Cafodd Laura ei hysbrydoli i drefnu’r her ar ôl dod o hyd i ficroplastigion yn Llyn Glaslyn, fymryn yn is na chopa’r Wyddfa.
Dywed Laura: “Y llynedd fe wnaethon ni nofio 26 km o lyn wrth gopa’r Wyddfa gan ddilyn trywydd yr afon yr holl ffordd at yr arfordir. Cawsom ein dychryn pan glywson ni fod microplastigion yn y dŵr yr oedden ni wedi’i gasglu ar hyd y ffordd.
“Felly nawr rydyn ni eisiau gweld pa mor eang yw’r broblem ac edrych ar y dyfrffyrdd ym mhob un o barciau cenedlaethol Prydain.
“Byddaf yn nofio cyfanswm o 1,000 km ym mhob un o’r 15 parc cenedlaethol ac rwy’n gobeithio cwblhau’r her mewn dim ond chwe wythnos.
“Mae’r cyfnod clo wedi effeithio’n arw ar fy ngallu i hyfforddi ac mae’n bendant yn mynd i fod yn her - ond byddaf yn nofio trwy rai o’n tirweddau mwyaf gwyllt a bregus a bydd yr ymchwil y byddwn yn ei wneud yn helpu i dynnu sylw at effaith amgylcheddol microplastigion yn nyfroedd y Deyrnas Unedig, a dyna fydd yn fy ysgogi i gario ymlaen.”
Yn ymuno â Laura er mwyn dadansoddi’r samplau dŵr bydd Dr Christian Dunn, sy’n uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor. Meddai:
“Mae’r ymchwil hwn yn bwysig oherwydd mae angen i ni wybod faint o broblem yw microplastigion yn ein dyfrffyrdd os ydym am gael unrhyw obaith o fynd i’r afael â’r broblem.
“Byddai’n braf meddwl, oherwydd bod rhai o’r ardaloedd y bydd Laura yn nofio trwyddynt yn gymharol anghysbell, na fydd llygredd microplastig yn effeithio arnynt - ond yn anffodus mae hynny’n annhebygol o fod yn wir.”
“Mae faint o blastig sydd ynddynt fodd bynnag yn rhywbeth y mae angen i ni ei ddysgu.”
I ddilyn yr her nofio ar Instagram ewch i @weswimwild ac i ddilyn yr ymgyrch yn erbyn microplastigion ewch i wefan SAS www.sas.org.uk. neu i www.weswimwild. com.