Gobaith disglair y ganrif ...a’r diffyg dychymyg
Yn 1976, Geraint Jarman oedd ‘Gobaith Mawr Y Ganrif’, ac wrth i ni ei longyfarch ar gyrraedd oed yr addewid yn ddiweddar, rhaid cofio bod problemau’r degawd arbennig hwnnw yn dra gwahanol i heddiw.
Yn 1973, bu cau camlas Suez yn sgil effaith rhyfel Yom Kippur rhwng Israel a’r Aifft a’i chynghreiriaid. Daliwyd tanceri olew’n sownd am flynyddoedd gan godi pryderon bod olew bellach yn arf economaidd gwleidyddol a bod brig i’w dyfiant.
Yn y flwyddyn flaenorol, tagwyd economi Prydain gan greisis, (a gwelwyd rai cyfyngiadau cymdeithasol tebyg i’r presennol), sef streic y glowyr dan arweinyddiaeth craff Joe Gormley a’r wythnos waith tri diwrnod o ganlyniad.
Cafwyd creisis ynni wrth i’r byd yn sydyn ragweld cynhyrchiant olew a thanwyddau eraill yn darfod. Roedd yr UDA hyd yn oed ddim ond yn cynhyrchu 80% o’i chyflenwad domestig o olew a gwelwyd dyblu prisiau ynni dros nos, a bu sôn am ddogni petrol ym Mhrydain. Crëwyd OPEC yn 1960 gan y cynhyrchwyr olew crai, ond wedi 1973 roedd y gwledydd diwydiannol democrataidd yn wynebu talu crocbris i wledydd unbenaethol y Dwyrain Canol. Ffactor a arweiniodd at ansefydlogrwydd y rhanbarth yn y ganrif hon.
Yr ofn bryd hynny ym maes hinsawdd oedd y disgwyl ein bod ar fin oes iâ newydd a heb egni hydrocarbon ni fyddai modd ymgodymu â’r problemau amgylcheddol gan gynnwys newyn.
Cofiaf yn glir raglen ddogfen a gynhyrchwyd gan y BBC, ‘The
Weather Machine’, diwydiant egni’r ganrif hon.
Nid yw defnyddio nwy i yrru modur yn newydd, datblygwyd modur hydrogen mor bell yn ôl a 1806 gan Rivaz.
Yn ôl adroddiad blynyddol Pwyllgor ar Newid Hinsawdd (IPCC) San Steffan yn diweddar mae potensial enfawr i gynhyrchiant hydrogen ar raddfa fawr, hyd at bumed rhan o’r cyflenwad egni sydd ei angen ar y Deyrnas Gyfunol.
Mae hyn yn cynnig ateb ymarferol a thechnolegol i lawer o’r genhedlaeth newydd o bryderon sydd gennym yn 2020 am newid hinsoddol a darfodaeth amgylcheddol.
Erbyn 2025 y bwriad ydyw atal bwyleri newydd nwy naturiol mewn tai newydd yn y Deyrnas Gyfunol, ac erbyn 2035 bydd gwerthiant ceir newydd sydd yn rhedeg ar danwyddau ffosil yn unig yn dod i ben. Wrth gwrs bydd bwyleri nwy a cheir ar yr heolydd am ddegawdau wedi hynny, ond erbyn 2050 y bwriad o leiaf yw cyrraedd cydbwysedd yn y gyllideb carbon.
Hyd yn hyn, gwelwyd ceir trydan fel yr ateb amlwg, ond mae sawl problem i hyn. Yn gyntaf, rhaid cynhyrchu cyfaint aruthrol o drydan mewn oes lle mae cilio oddi wrth y dulliau traddodiadol, a mabwysiadu dulliau adnewyddol ysbeidiol, sydd yn risg i ddweud y lleiaf.
Yn ail, er bod trydan yn effeithiol mewn ceir, nid yw eto’n effeithiol ar gyfer lorïau a chludiant neu beirianneg trwm.
Felly, mae hydrogen yn cynnig modd parhau i gynhyrchu llawer iawn o danwyddau ffosil.
Mae profiad ofnadwy Zeppelin yr Hindenberg yn 1937, yn dangos yn glir bod hydrogen yn beryglus ac ymfflamychol, ac mae hefyd yn ffaith bod storio hydrogen yn cymryd mwy o le mewn tanc o’i gymharu â nwy naturiol (40%).
Felly’n rhesymegol, er bod hydrogen yn ateb, mae sefydlu rhwydwaith cyflenwi cost effeithiol yn greiddiol i’w lwyddiant.
Nid yw’n syndod mai un o’r gwledydd sydd yn gweld hydrogen fel yr ateb yw Gwlad yr Iâ, sydd, oherwydd bendithion daearegol, â digonedd o egni geothermol at y dasg o greu’r nwy. Mae Siapan, sydd yn ffodus (y tro yma) o gael daeareg ar ffin plât tectonig hefyd yn symud at y cyfeiriad hwn.
Felly, a oes modd o gynhyrchu digon o hydrogen gwyrdd yma yng Nghymru. Wel oes, neu o leiaf mi oedd tan yn ddiweddar iawn, pan roddwyd diwedd ar gynlluniau adeiladu bared llanw yn ardal Abertawe.
Roedd y cynllun yma’n cynnig y math o gyfaint egni dibynnol oedd ei angen ar gyfer cynhyrchiant cyflenwad amgen a dibynadwy o hydrogen.
Er bod yna bosibilrwydd o gynllun arall mae’n ddirgelwch i mi, â Llywodraeth Cymru a’r Deyrnas Gyfunol mor frwdfrydig i ‘achub y blaned’, na welwyd potensial i’r math yma o ddatblygiad i gyfiawnhau cost enfawr ei adeiladu. Mae’r ateb yn un gwleidyddol am wn i, gan fod angen ithfaen o dde orllewin Lloegr i wneud y bared, a phorthladd newydd mewn ardal o warchodaeth morol yn Nyfnaint.
Yn y misoedd cyn etholiad 2019, a fyddai rhoi rhwydd hynt i’r chwarel wedi bod yn anrheg i obeithion y Lib Dems yn erbyn y Toriaid mewn degau o seddi ymylol yn ne orllewin Lloegr?
O bosib, yn hytrach na sefydlu pwyllgorau ar ddysgu plant i gerdded i’r ysgol neu warantu caethiwed ffiwdalaidd economi’r canol oesoedd i’n poblogaeth, pam nad ydym yn fwy optimistaidd a gweithredol.
Pam na all y seneddau gwahanol yn y pedair gwlad ddefnyddio ychydig o ddychymyg a gweld gobaith disglair yn y ganrif hon, yn hytrach na thrychineb ecolegol?
O weld parodrwydd llywodraeth Boris Johnson i newid polisi ar fympwy yn y misoedd diwethaf peidied meddwl nad yw 2025 a 2035 yn ysglyfaethau parod symudol pan ddaw’r Etholiad Cyffredinol Prydeinig nesaf tua 2024.