Croesawu’r newyddion ond beth rŵan am y dyfodol?
Mae PAWB (Pobl Atal Wylfa B) yn croesawu’r newydd fod cwmni Hitachi am roi’r gorau’n gyfan gwbl i’w cynllun i adeiladu atomfa niwclear yn Wylfa.
Galwn ar Hitachi i sicrhau na fydd unrhyw gynllun niwclear yn medru digwydd ar y safle yn y dyfodol os gwerthir y safle i ddatblygwr arall. Byddem yn croesawu trafodaeth rhwng Hitachi a thrigolion yr Ynys am adfer y safle, gan gynnwys y tai a ddymchwelwyd, i gyflwr cystal ag yr oeddent cynt, a gallai arbenigedd Hitachi arwain at ddatblygu cynlluniau ynni gwyrdd fyddai’n gallu creu nifer o swyddi yma.
Gwastraffodd ein gwleidyddion ymhell dros ddegawd yn cefnogi Wylfa B. Ers blynyddoedd, mae PAWB wedi cytuno ag arbenigwyr ledled y byd oedd yn rhybuddio bod prosiectau niwclear enfawr yn annhebygol o fod yn fasnachol lwyddiannus. Dymchwelwyd pob un o ddadleuon y diwydiant niwclear gan dwf dulliau cynaliadwy o gynhyrchu ynni, a hynny ar gost sy’n dal i ddisgyn.
Rhoddwyd dyfodol economaidd Ynys Môn yn nwylo llond dwrn o bobl mewn stafell yn Tokyo a drylliwyd gobeithion cenhedlaeth o bobl ifanc am waith yn eu hardaloedd.
‘Roedd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd rhwng Gwynedd a Môn, a Chynllun Twf Gogledd Cymru, yn cymryd yn ganiataol y byddai Wylfa B yn digwydd, ac y byddai’n beth da. Felly galwn ar y Cynghorau a Llywodraeth Cymru i ddechrau o’r dechrau gyda’r cynlluniau datblygu hyn. Beth am greu dyfodol amgen?
Mae modd adeiladu economi wahanol, yn enwedig o gofio bod ffyrdd newydd o weithio wedi eu gorfodi arnom gan y Coronafirws.
Gallwn hefyd ddefnyddio rhai o’r cyfleusterau a fwriadwyd i gefnogi Wylfa ar gyfer economi amgen. Mae syniadau hyfyw a blaengar ar gael yn ein cymunedau lleol.
Briwsion o gefnogaeth yn unig a gafodd rhain o’u cymharu ag Wylfa. Mae aelodau o PAWB wedi bod yn cydweithio â rhai o’r bobl sy’n gwneud gwaith mor dda yn eu cymunedau, Bro Môn, Cwmni Bro, Dolan, Partneriaeth Ogwen, Antur Aelhaearn a SAIL er enghraifft.
Galwn ar y Cynghorau a Llywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i drafod efo a chefnogi pobl fel hyn er mwyn gweld beth sy’n bosib ei wneud yn lleol.
Daeth yr amser i ddibynnu ar gewri cyfalafol i ben os ydym am greu gwell dyfodol.
PAWB (Pobl Atal Wylfa B)