Prosect newydd i gyfoethogi cofnodion o longddrylliadau oddi ar arfordir Cymru
Dod â dwy ffynhonnell amhrisiadwy o wybodaeth yn ymwneud â hanes morwrol ein gwlad at ei gilydd
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi ymgymryd â phrosiect i gyfoethogi ei gofnodion am longddrylliadau yn nyfroedd Cymru.
Mae ‘Gwneud y Cysylltiad: Sefydliad Cofrestr Lloyd’s a Chofnod Henebion Cenedlaethol Cymru’, yn cael ei gyllido gan Sefydliad Cofrestr Lloyd’s ac yn manteisio ar adnoddau wedi’u digido gan Lloyd’s sy’n cynnwys Cofnodion Colledion o 1890 hyd at 2000.
Mae’r Cofnodion Colledion yn rhestru llongau dros 100 tunnell gros a gollwyd ac yn eu rhoi mewn cyd-destun byd-eang. Yn y cofnodion mae manylion fel enw, cenedl, tunelledd, dosbarthiad, taith a chargo’r llong, a dyddiad, amgylchiadau a lleoliad ei cholli.
Byddai colledion ar y môr yn aml yn cyrraedd tudalennau blaen y papurau Cymreig a bydd y cofnodion newydd yn cynnwys cysylltiadau i adroddiadau papur newydd cyfoes, gan gyflwyno agwedd ddynol i ystadegau moel y Cofnodion Colledion.
Mewn adroddiad yn y Cardiff Times am agerlong Brydeinig Mareca, a suddodd ger arfordir Penfro ym 1898, gwelwn fod y criw yn dod o Gymru, Lloegr, Yr Alban, Sweden, Gwlad yr Iâ, Yr Almaen, Norwy a Rwsia, gan adlewyrchu natur ryngwladol criwiau’r llyngesau masnachol.
Un digwyddiad o bwys oddi ar Ynys Môn oedd y gwrthdrawiad rhwng yr agerlongau Oria a Stella Maris ym mis Ionawr 1905.
Hwyliodd yr Oria, a oedd yn teithio o Lerpwl i Bilbao, i mewn i’r Stella Maris, llong o Brydain a oedd yn croesi o Waterford i Carston dan falast, a hynny ychydig cyn canol nos. Achoswyd difrod mawr i’r Stella Maris a dechreuodd suddo ar ei hunion. Difrodwyd yr Oria hefyd a suddodd yn fuan wedyn. Hyn sy’n egluro’r dyddiadau gwahanol yn y Cofnodion Colledion.
Un o ddigwyddiad morwrol mwyaf trasig hanes fodern Cymru yw dryllio’r SS Samtampa ym mis Ebrill 1947 ar Drwyn y Sger, oddi ar Borth-cawl.
Roedd yr agerlong, a oedd wedi gwasanaethu yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel llong ‘Liberty’, ar ei ffordd o Middlesbrough i Gasnewydd dan falast pan aeth rhywbeth o’i le ar yr injan mewn tywydd garw.
Angorwyd y llong ym Mae Abertawe er mwyn ceisio trwsio’r injan ond yn y dymestl fe dorrodd cadwyn yr angor am tua 4.40pm a chafodd y
Samtampa ei chwythu ar draws y bae nes taro creigiau Trwyn y Sger.