Capeli’n cydweithio i roi hwb amserol i’r ardal
Mae dau gapel o ddau enwad gwahanol yn Nyffryn Nantlle yn cydweithio er mwyn rhoi hwb i bobol yr ardal a cheisio gwneud y neges Gristnogol yn fwy perthnasol i fywyd bob dydd.
Karen Owen, sydd wedi’i geni a’i magu yn y pentref, fydd yn arwain y cynllun rhwng Capel y Groes (Eglwys Bresbyteraidd Cymru) a Chapel Soar (Annibynwyr).wrth iddi dreulio’r flwyddyn nesaf yn dilyn cwrs ‘Profi Galwad’ gyda chymorth grant y Presbyteriaid.
“Rydan ni’n byw mewn cyfnod anodd, lle mae pobol yn cael eu gwasgu yn ariannol, o ran iechyd meddwl ac o ran dewisiadau,” meddai Karen.
“Mae angen swyddi a sicrwydd ymarferol ar bawb, ond mae angen i ni beidio anwybyddu’r anghenion ysbrydol hefyd. Mae gweld dau gapel cryf yn dod at ei gilydd yn codi calon, oherwydd ffydd sy’n bwysig, nid crefydd.”
Mae tua dau gant o aelodau rhwng y ddwy eglwys, ond mae mil a hanner yn byw yn y pentref a chyfanswm o bum mil ym mhentrefi cyfagos
Dyffryn Nantlle.
Daeth sylw anffafriol i Benygroes ym mis Mehefin eleni pan baentiwyd neges hiliol ar gartref teulu du. Fe ddaeth trigolion y Dyffryn at ei gilydd i gondemnio’r weithred a chydsefyll gyda’r teulu Ogunbanwo.
Daeth ergyd arall pan gaeodd y ffatri bapur lleol a chollodd 94 eu gwaith.
Bwriad yr eglwysi yw gwneud neges yr Efengyl yn fwy perthnasol i fywyd bob dydd y fro a’i phobl.
Yn ol Talfryn Griffiths ar ran y ddau gapel, “Does dim un gweinidog llawn amser yn byw yn y Dyffryn ers rhai blynyddoedd ond mae’r capeli lleol yn cydweithio’n glos ers amser ac mae hwn yn gyfle rhy dda i’w golli.”
Rhwng pryderon cyffredinol am sgil effeithiau Covid-19, diweithdra ac anobaith mae’r eglwysi am gynnig help ymarferol a sicrhau nad yw pobol yn teimlo’n unig a di-gefn.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Karen Owen ar 07766966124.