Ymateb i ddarlun brawychus o brosiect aeth ymhell dros ei gyllideb
Mae Nick Ramsay AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd, wedi ymateb i adroddiad ynghylch gwaith adnewyddu ar Ysbyty Glan Clwyd a gostiodd dros £60 miliwn yn fwy na’r hyn a gafodd ei gymeradwyo yn wreiddiol.
Yn dilyn dau achos yn ymwneud ag asbestos yn 2010 gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gais i Lywodraeth Cymru am gyllid cyfalaf i gael gwared ar yr asbestos ac adnewyddu Ysbyty Glan Clwyd. Yn 2012, cytunodd Llywodraeth Cymru ar gyllid o £110.4 miliwn. Cafodd y broses gymhleth ei chwblhau yn llwyddiannus yn 2019, dim ond ychydig fisoedd yn hwyrach na’r disgwyl, ond am gost o £170.8 miliwn, bron i 55% yn fwy na’r gyllideb a gymeradwywyd yn wreiddiol.
Mae adroddiad Archwilio Cymru yn feirniadol o’r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru am beidio mynd i’r afael â gwendidau yr achos busnes.
Wrth ymateb, dywedodd Nick Ramsay: “Mae adroddiad diweddaraf Archwilio Cymru yn rhoi darlun brawychus o brosiect adnewyddu’r GIG sydd wedi mynd ymhell dros y gyllideb. Rwy’n cydnabod, wrth gwrs, bod tynnu asbestos o ysbyty sy’n gweithio tra’n cynnal diogelwch cleifion, staff ac ymwelwyr yn broses gymhleth. Fodd bynnag, mae gorwariant o bron i 55 y cant ar yr hyn a gyllidebwyd fel prosiect gwerth £110 miliwn yn awgrymu i mi fod rhai disgyblaethau prosiect ariannol sylfaenol wedi cael eu chwalu.
“Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ceisio cael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru a’r bwrdd iechyd nad yw hyn yn arwydd o broblemau ehangach wrth reoli prosiectau cyfalaf y GIG yng Nghymru.”
Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd yn gyfrifol am gadw golwg ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gwario ei chyllideb i sicrhau bod y cyhoedd yng Nghymru yn cael y gwerth gorau posibl am arian.