Y Cymro

Deall brwydr y Gwarchae

- Gan Dewi Jones

Dyw siachmat gyda theyrn a gwerinwr yn erbyn teyrn yn unig ddim yn bosib, tra bod siachmat gyda theyrn a brenhines yn fater syml. Am y rheswm hon mae pob diweddglo â theyrn a gwerinwr yn wynebu teyrn unigol yn troi ar un cwestiwn: ydi hi’n bosib i’r gwerinwr droi’n frenhines?

Yn y diagram, os gall y gwerinwr ar e4 droi’n frenhines bydd Gwyn yn ennill, os gall Du atal hynny bydd y gêm yn gyfartal. 1. ... Te6 2.Td4 Td6 3.e5+ Te6 4.Te4 Te7 5. Td5 Td7 6.e6+ Te7 7.Te5 Te8 8.Tf6 Tf8 9.e7+ Te8 10.Te6 methmat.

Mae Du wedi cyflawni’r nod strategol ac wedi hawlio gêm gyfartal.

Gallai Gwyn fod wedi chwarae’n wahanol, ond i atseinio geiriau Bobby Fischer wrth sôn am Gambit y Brenin:

Byddai Du yn hawlio gêm gyfartal mewn ffordd wahanol. I ddeall yr hyn sy’n mynd ymlaen mae’n rhaid deall un o agweddau mwyaf sylfaenol y diweddglo yr hyn a elwir y Gwarchae.

Y Gwarchae yw’r term am y frwydr rhwng dau frenin sy’n ceisio gwneud i’w gwrthwyneb­ydd ildio tir.

Yn yr ail ddiagram byddai’r ddau Deyrn yn dymuno camu ymlaen ac ennill tir, ond mae’r gwrthwyneb­ydd yn atal hynny. Mewn sefyllfa fel hyn mae gorfod symud yn anfantais, gan y bydd rhaid ildio rheolaeth ar un o’r sgwariau sydd wedi eu hamlygu gyda chylch gwyrdd. Os bydd Gwyn yn symud gallwn ddweud mai Du sy’n “ennill y gwarchae” gan fod 1Te4 yn galluogi 1... Tf5 tra bod 1.Tf4 yn galluogi 1. ...Te5 yn y ddwy enghraifft mae

Du yn ennill tir.

Wrth fynd yn ôl at y diagram cyntaf fe welwn fod gan Gwyn werinwr ychwanegol ac mae’n ennill y gwarchae gan mai Du sydd i symud. Er y ddwy fantais yma, mi all Du hawlio gêm gyfartal gyda dealltwria­eth o’r gwarchae.

1. ...Te6 (i werthfawro­gi y symudiad yma rhaid ystyried y sefyllfa ar ôl 1. ...Td6 a’r ymateb 2. Td4 pan mae Gwyn yn parhau i ennill y gwarchae, a’i gymharu gyda’r sefyllfa ym mhrif ffrwd y gêm.)

2.Td4 Td6. (Mae’n ymddangos bod y sefyllfa yr un peth, ond dyw hynny ddim yn wir achos ar ôl 1. ...Td6 2. Td4 Du sydd i symud ac felly mae Gwyn yn ennill y gwarchae, ond ar ôl 1. ...Te6 2.Td4 Td6 Gwyn sydd i symud ac ni all y teyrn Gwyn ennill tir. Byddai Gwyn wedi hoffi ymateb 2.Te4 Ond gan fod gwerinwr ar e4 dydi hynny ddim yn bosib.)

3.e5+ (does dim llawer o ddewis gan fod 3.Te3 neu 3.Td3 yn gadael i Du adennill tir ac ailadrodd gyda 3. ...Te5) 3. ...Te6 (Mae Du yn rhoi’r teyrn o flaen y gwerinwr ac unwaith eto yn atal y teyrn Gwyn rhag camu mlaen at d5)

4.Te4 Te7 (fel gyda’r symudiad cyntaf, pan fod rhaid ildio tir mae Du yn symud yn syth am yn ôl, unwaith eto byddai symud i’r ochr gyda 4. ...Td7 yn galluogi Gwyn i ennill y gwarchae gyda 5. Td5)

5.Td5 Td7 (unwaith eto mae Du yn ennill y gwarchae) 6.e6+ Te7 7.Te5 Te8 (Syth yn ôl ydi’r unig symudiad i achub gêm gyfartal. Mae sefyll i’r ochr rwan yn colli 7. ...Td8 8.Td6 Te8 9 e7 ac mae Du yn gorfod symud o’r neilltu gyda ...Tf7 a gadael i Gwyn sicrhau sgwâr y rheng ôl i’r gwerinwr gyda 10. Td7 8.Tf6 Tf8 9.e7+ Te8 (gan mai Gwyn sydd i symud does dim angen i Du symud o’r neilltu) 10.Te6 methmat.

Felly y gyfrinach i amddiffyn diweddglo fel hyn ydi i neidio o flaen gwerinwr eich gwrthwyneb­ydd ar bob cyfle, ac os cewch chi eich gorfodi i ildio tir, ewch yn yn ôl.

 ??  ??
 ??  ??

Newspapers in Welsh

Newspapers from Argentina