Ydi, mae’r ‘Gwyddonydd’ yn newid yr hen gêm hyfryd am byth
Edmygu dyn sy’n siglo’r seiliau a chwalu’r drefn arferol...
Pwy sydd wedi clywed am Bryson DeChambeau?
Mae’i enw yn swnio fel hoover sy’n chwistrellu siampên (sydd yn syniad campus).
Ond chwaraewr golff yw’r dyn dan sylw. Chwaraewr golff sydd yn newid y gêm bob tro mae e’n camu ar y cwrs.
Dwi ddim yn chwarae golff ond fe alla i wylio’r goreuon am oriau. Mae rhywbeth hypnotig am y gêm. Fel arfer.
Mae DeChambeau yn siglo’r seiliau ac yn chwalu’r hen drefn.
Roedd ei fuddugoliaeth ym Mhencampwriaeth Agored America yn ddiweddar yn benllanw trawsnewidiad llwyr i’r gŵr o Galiffornia.
Achos nid golffiwr cyffredin mohono - ond Swper Golffiwr.
Mae golff yn hen gêm hyfryd - ond yn henffasiwn hefyd. O edrych o bell does dim llawer wedi newid ers canrifoedd. Taro pêl fach wen mor bell ag sy’n bosib cyn ceisio ei suddo yn y twll.
Ond yn dawel bach mae technoleg wedi trawsnewid popeth, wrth gwrs. Ac mae DeChambreau wedi cymryd hynny i lefel hollol wahanol.
‘Y Gwyddonydd’ yw ei ffugenw ac mae hynny oherwydd y modd y mae e wedi dadansoddi pob elfen o’r gêm er mwyn cyrraedd y brig.
Yn 15 oed dechreuodd astudio llawlyfr Homer Kelly ‘ The Golfing Machine,’ sydd yn esbonio yn fanwl sut mae adeiladu eich ‘ swing’.
Yn draddodiadol mae ffyn golff o faint gwahanol - rhai yn hirach na’i gilydd - penderfynodd Bryson mai rwtsh oedd hynny a thorri pob un yr un hyd.
Mae hynny yn galluogi i bob ergyd fod yr un peth.
Mae’n socian y peli mewn dŵr a halen er mwyn darganfod y man canol - craidd disgyrchiant - ac wedyn yn marcio pob pêl er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddo daro’r ‘man melys’.
Ma’ fe hyd yn oed wedi dysgu ei hun i ysgrifennu am yn ôl gyda’i law anghywir er mwyn gwella ei sgiliau motor niwron!
Edrychwch ar ei lofnod - mae fel tase’n cael ei adlewyrchu mewn drych.
Ac yn fwy diweddar daeth trawsnewidiad arall. Ar ôl ailadeiladu ei gêm - mae hefyd wedi ailadeiladu ei gorff. Yn ystod y cyfnod clo bu’n gweithio’n galed yn y gampfa - yn codi pwysau - ac yn cynyddu pwysau ei gorff yn sylweddol.
Erbyn hyn mae’n taro’r bêl yn bellach na phawb arall ac yn bwyta cyrsiau golff i frecwast. Dim fe yw’r unig un sy’n taro’r bêl yn bell - mae’r criw cryf newydd yn bygwth dyfodol y gêm gan fod y cyrsiau traddodiadol yn rhy fach.
Doedd yr hen bennau ddim yn poeni llawer am hyn cofiwch. Y teimlad oedd bod modd paratoi’r cyrsiau er mwyn rhwystro’r cewri. Sicrhau bod y chwaraewyr â’r sgiliau traddodiadol yn disgleirio. Dangosodd DeChambeau ar gwrs Winged Foot - un o’r cyrsiau mwyaf anodd – nad oedd unrhyw beth yn mynd i’w stopio.
Nawr ac yn y man mae cymeriad yn ymddangos sydd yn newid y byd chwaraeon.
Er gwell neu er gwaeth.
Y teimlad yw bod Bryson DeChambreau yn mynd i newid golff am byth.