Tanseilio datganoli: Codi rhagor o amheuon am reolau masnach newydd y DU Adroddiad ar y Mesur yn ategu ofnau llywodraethau datganoledig
Bydd rheolau newydd ar farchnad fewnol y DU yn tanseilio datganoli ac yn creu drwgdybiaeth rhwng llywodraethau.
Dyna gasgliad adroddiad newydd ar y cyd rhwng prifysgolion yng Nghymru a’r Alban, wrth i Fesur Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU ddechrau ar ei Ail Ddarlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Mae’r adroddiad hefyd yn cyflwyno’r ddadl dros dynnu’r Mesur yn ôl a dechrau eto.
Cyhoeddwyd yr adroddiad gan dîm o academyddion yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, a’r Ganolfan Newid Cyfansoddiadol ym Mhrifysgol Caeredin.
Mae’r Mesur Marchnad Fewnol wedi cael ei feirniadu’n gryf gan lywodraethau a seneddau’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, ac mae’r adroddiad newydd yn ategu hynny.
Mae’r ddogfen yn ateb deg cwestiwn am gynnwys y Mesur, gan ddod i’r casgliad, heb unrhyw amheuaeth, fod y Mesur yn:
•
•
•
Gwneud peirianwaith llunio polisi’r llywodraethau datganoledig yn ddi-fin.
Rhoi blaenoriaeth i ddiddymu rhwystrau masnachu ar draul pob nod polisi cyhoeddus arall.
Mynd i beri drwgdybiaeth pellach, a thanseilio cydweithrediad rhwng gwahanol wledydd y DU drwy, ymysg rhesymau eraill, sefydlu’r awgrym y gall Llywodraeth y DU ddefnyddio pwerau gwario newydd yn erbyn ewyllys y llywodraethau a’r seneddau yng Nghymru neu’r Alban.
Mae’r adroddiad y dweud bod y Mesur yn debygol o fynd yn ei flaen heb sêl bendith cyrff deddfwriaethol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan roi mwy o straen ar y berthynas rhyngddynt â’r DU, a bod achos yn bodoli dros dynnu’r Mesur yn ôl a dechrau eto.
Ond mae’r awduron yn gwneud cyfres o argymhellion a allai wella’r Mesur a lleihau ei effeithiau andwyol, sy’n cynnwys: • Gwell cyfathrebu a chydweithredu gyda llywodraethau datganoledig y DU.
Blaenoriaethu’r gwaith o ddatblygu Fframweithiau Cyffredin lle credir bod angen dull ar y cyd. Cynnwys ystod ehangach o eithriadau i’r egwyddorion sy’n pennu mynediad i’r farchnad, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw sicrhau mynediad i’r farchnad yn effeithio ar allu’r sefydliadau datganoledig i fynd ar drywydd eu nodau polisi eu hunain.
Gwneud yn siŵr bod gweinidogion y DU yn sicrhau sêl bendith y sefydliadau datganoledig cyn newid manylion y ddeddfwriaeth ar ôl iddi gael ei chyflwyno. Ailystyried y pwerau cymorth ariannol sydd yn y Mesur. Dylid unai esbonio a chyfiawnhau pwrpas y pwerau gwario newydd, neu dylid eu dileu o’r Mesur. Yn ôl yr adroddiad dylai unrhyw bwerau newydd dros wariant gael eu craffu yn ddigonol er mwyn asesu eu goblygiadau ar gyfer y trefniannau cyllido presennol, ac o ran disodli cronfeydd strwythurol yr UE gyda Chronfa Ffyniant a Rennir. Nid yw cynnwys y pwerau cyllid newydd yma yn y Mesur Marchnad Fewnol y ffordd orau o sicrhau fod yr elfennau pwysig hyn o gyfundrefn wariant cyhoeddus y DU ar ôl Brexit yn cael eu craffu’n briodol.
•
•
•
•