Y Cymro

Sioe ar-lein yn adrodd stori hawliau tir a phrotest yng Nghymru

-

Mae’r cerddorion Gwilym Morus ac Owen Shiers wedi bod yn teithio sioe Gafael Tir ers pedair blynedd, ond nawr mae Siân Miriam wedi ymuno â nhw ar gyfer dilyniant o bedair sioe ar-lein.

Mae Gafael Tir yn adrodd straeon am frenhinoed­d, ffermwyr yn croeswisgo, pregethwyr radical, gweithwyr tir ac undebau i gyfeiliant hen faledi a chaneuon. Ac yn ogystal â thynnu ar gelfyddyda­u gwerin Cymru, mae’r sioe yn cyffwrdd ar wleidyddia­eth, hawliau dynol, rhyddid meddwl a mynegiant, yr hawl i wrthdystio a hanes democratia­eth ym Mhrydain.

Ysbrydolwy­d y sioe gan sioe debyg, Three Acres and a Cow, sydd yn adrodd hanes hawliau tir a phrotestio yn Lloegr drwy ganeuon gwerin. Roedd y fformat yn apelio at Owen Shiers, un o berfformwy­r y sioe, a ddywedodd mai’r enillwyr sy’n ysgrifennu hanes a bod Gafael Tir, fel Three Acres and a Cow, yn rhoi darlun gwahanol.

Perfformiw­yd y sioe yn Saesneg yn wreiddiol gan mai ei bwriad oedd pontio cymunedau ac addysgu mewnfudwyr am hanes Cymru. Ond yn fwy na dysgu am hanes roedd sylw i’r dyfodol a’r holl syniadau sydd gan fewnfudwyr hefyd, a chwestiyna­u yn cael eu codi am y rhesymau pam fod mewnfudwyr mor amlwg a chanolog i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Roedd Gwilym ac Owen wedi bod eisiau newid rhywfaint ar Gafael Tir felly bu symud y sioe ar-lein oherwydd cyfyngiada­u Covid-19 yn fendith yn ogystal ag yn felltith. Mae’r sioe lwyfan rhyw awr o hanner o hyd ond mae cynnal dilyniant o sioeau wedi eu galluogi i ehangu’r cynnwys a rhoi sylw i bethau na ellid fel arall. A gan i Siân Miriam, storiwraig o Sir Fôn, ymuno â Gafael Tir mae mwy o gyfle fyth i ehangu ar y cynnwys.

Mae trafodaeth a chwestiyna­u yn parhau yn rhan bwysig o bob sioe. Ac er mai adrodd hanes mae Gafael Tir, a bod tueddiad yn ôl Owen Shiers i weld hanes fel rhywbeth sydd wedi bod, mae themâu amserol a pherthnaso­l i ni heddiw yn codi yn ystod y trafodaeth­au hynny.

Mae pedair pennod Gymraeg yn cael eu perfformio drwy feddalwedd Zoom ar Hydref 31ain, Tachwedd 14eg, Tachwedd 28 a Rhagfyr 12fed, o brynu tocyn ar gyfer y pedair sioe bydd modd gweld pob sioe ar alw.

Am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau ewch i gafaeltir.cymru.

arlein - YCymro.Cymru

 ??  ??
 ??  ??

Newspapers in Welsh

Newspapers from Argentina