Cloriannu safonau ein newyddion ...wrth syllu ar y bocs bach
Ddechrau’r gwanwyn, a’r pandemig diarth yn dechrau codi braw, mi ddwedodd S4C fod 21% yn fwy ohonom yn troi at ei newyddion nosweithiol.
A pha ryfedd, wrth inni gyd orfod byw fel meudwyon a dibynnu fwyfwy ar y bocs bach yng nghornel y lolfa.
Mae’n wasanaeth anhepgor, a dw i’n fwy o ffan o’r slot hanner awr wedi saith na’r un naw o’r gloch blaenorol.
Ac mae’n wasanaeth hanfodol oherwydd yr holl reolau gwahanol a ddatblygodd ym mhedwar ban Prydain, wrth i’r llywodraethau datganoledig dorri eu cwys eu hunain yn wyneb arferion honedig Dominic Cummings y byd ’ma.
Ddechrau’r hydref, cawsom yr olwg gyntaf ar stiwdios newydd £120 miliwn BBC Cymru-Wales yn jyngl concrid Sgwâr Canolog Caerdydd, rhwng y brif orsaf drenau a’r Stadiwm Genedlaethol, wedi 41 mlynedd yn Llandaf.
Do, fe glywsom gyfeiriadau hyd syrffed bron at aelwyd newydd criw a
Mae’r naill yn edrych yn slic iawn, gyda rhyw wawr biws, cefndir panoramig y bur hoff Fae, arwyddgan a theitlau newydd sbon yn chwarae ar batrwm to twmffat unigryw’r Senedd. Ategiad arall ydi’r bwletin tywydd gyda Megan yn cyflwyno o flaen map sinematig o Walia. Gwasanaeth cenedlaethol o’r iawn ryw felly.
Cymharwch hyn â’r llall. Oes, mae gan Jennifer Jones ddesg estynedig, a Behnaz a Derek Tywydd wedi cael sgriniau newydd sbon i ddweud y rhagolygon, ond erys yr un hen arwyddgan, y graffics a’r logo.
Hynny a lliw coch Corfforaethol y ‘news from where you are’. Naws newyddion rhanbarthol sydd yma yn y bôn, yn ymestyn o
Belffast i Norwich, o
Glasgow i
St Helier.
Mewn undeb Prydeinig mae nerth. Ychwanegwch y ffaith fod cyflwynwyr fel Nick Servini yn arddel y ffordd Lundeinig o adrodd am ein gwlad trwy fynnu pwysleisio’r ‘North Wales’ hyn a’r ‘South Wales’ arall, a sawl gohebydd dŵad yn mwrdro ein henwau cynhenid, a dyna chi reswm arall dros osgoi gwylio’r bwletinau Saesneg o CF10.
Fel Gweithiwr Adra ers wyth mis bellach, profiad newydd ydi cynnau’r radio yn ystod y dydd a gwrando ar arlwy newyddion
‘Mae’n wasanaeth anhepgor, a dw i’n fwy o ffan o’r slot hanner awr wedi saith na’r un naw o’r gloch blaenorol’
Gwasanaeth sydd ar waith ers blwyddyn, fel mae’n digwydd, ar ôl disodli Rhaglen awr ydi hi bellach am ryw reswm, er bod datganiad Rhuanedd Richards yn addo “... dwy awr i ddal yr eiliad; yr eiliadau holl bwysig hynny sy’n diffinio’n byd heddiw. Os yw e’n bwysig i bobl Cymru, fe fydd lle i’w drafod ar y rhaglen - o’r diweddara gyda thrafodaethau Brexit i’r drafodaeth am newid hinsawdd”. A’r C-19 felltith wrth gwrs.
Mae’n awran effeithiol, yn enwedig dan law’r fythol ddibynadwy Dewi Llwyd, ond dw i’n methu’n lân â deall pam fod angen pontio’r straeon ag ambell gân. Rhyw bn’awn, dyma Dewi’n chwarae cân ‘Arwain fi i’r môr’ gan Danielle Lewis rhwng eitem am arswyd dirwasgiad posibl a hanes gŵr o Fangor sy’n dal i ddioddef sgileffeithiau Covid. Cân hyfryd, heb os, ond yn chwithig o adloniant ysgafn mewn rhaglen newyddion caled. Fuasai Sarah Montague fyth, byth yn chwarae Kylie yng nghanol
Radio 4.
Ydy bosys Radio Cymru wir yn meddwl na allwn ni ymdopi heb mymryn o bop?
arlein - YCymro.Cymru