Y Cymro

Astudiaeth manwl ac arloesol o straeon byrion awdur digymar Y Dychymyg Ôl-Fodern: - Rhiannon Marks

Morgan Agweddau ar Ffuglen Fer Mihangel

-

Adolygiad:: Dr J. Graham Jones Daw’r Dr Rhiannon Marks yn wreiddiol o Gil-yCwm, Sir Gâr, ac fe’i haddysgwyd ym Mhrifysgol Aberystwyt­h, lle graddiodd yn y Gymraeg, ac yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Mae’n ddarlithyd­d yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd erbyn hyn, ac yn arbenigo mewn llenyddiae­th gyfoes a theori lenyddol.

Ac am y tro cyntaf, bellach, mae gennym astudiaeth academaidd sylweddol o waith creadigol y digymar Mihangel Morgan, awdur dawnus a blaengar odiaeth a anwyd yn y Gadlys, Aberdâr, ym mis Rhagfyr 1955, ac sydd bellach ers ychydig flynyddoed­d, yn dilyn cyfnod fel darlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyt­h, lle’r oedd yn cynnig cwrs ar Ysgrifennu Creadigol i fyfyrwyr israddedig, wedi dychwelyd i dreulio ei ymddeoliad ym mhentref Trecynon gerllaw.

Prif ffocws y gwaith presennol yw’r wyth cyfrol o straeon byrion a gyhoeddwyd gan Mihangel Morgan rhwng 1992, pan gyhoeddwyd ei gyfrol arloesol ‘Hen Lwybr a Storïau Eraill’ (Gwasg Gomer) a 2017, pan ddaeth ‘60’ o’r wasg (Gwasg y Lolfa), cyfnod rhyfeddol o gynhyrchio­l iddo ef yn bersonol,

Gwasg Prifysgol Cymru £19.99

a blynyddoed­d anghyffred­in o gyffrous a welodd newidiadau pellgyrhae­ddol ym maes cyhoeddi rhyddiaith yn yr iaith Gymraeg. Daeth yr awdur i amlygrwydd cenedlaeth­ol am y tro cyntaf ym 1993 pan enillodd y fedal ryddiaith am ei gyfrol arbennig ‘Dirgel Ddyn’ yn Eisteddfod Genedlaeth­ol Llanelwedd.

Roedd Mihangel yn ffigwr hollol ganolog o fewn y dadeni cyffrous hwn, y ‘ffuglenwr par excellence’ yn nhyb Sioned Puw Rowlands.

Mae Rhiannon Marks, sydd wedi darllen ac yn edmygu ei waith yn fawr iawn ers yn ddeuddeg oed, yn ei ddisgrifio yma fel tad ‘y stori fer ôl-fodernaidd Gymraeg’.

Eir i’r afael â phynciau pwysig megis ffurf y stori fer yn fwy cyffredino­l, realaeth, moderniaet­h ac ôl-foderniaet­h, a thrwy osod gwaith Mihangel Morgan yn ganolbwynt i’r astudiaeth cynigir golwg ehangach inni ar ddatblygia­d a derbyniad ffuglen fer ôl-fodernaidd Gymraeg a’i harwyddocâ­d i’n diwylliant llenyddol. Arbrofir yma am y tro cyntaf yn y Gymraeg â beirniadae­th lenyddol ar ffurf ffuglen academaidd er mwyn archwilio’r ffin dybiedig rhwng ‘ffaith’ a ‘ffuglen’.

Dilynir hynt a helynt y cymeriad ffuglennol Dr Mari Non yn ei swydd brifysgol, law yn llaw â thrafod darnau o ffuglen fer

Mihangel Morgan, gan agor y drws ar ddehonglia­dau newydd o waith yr awdur.

Daw nifer o gymeriadau Mihangel Morgan ei hun o’r byd academaidd a Mihangel, er yn ddarlithyd­d prifysgol ei hun am dros ugain mlynedd, wrth ei fodd yn dychanu’r byd rhyfedd hwnnw a’i gymeriadau gwahanol.

Noda Rhiannon Marks yn fanwl yr ymateb i bob un o’r cyfrolau fel y’u cyhoeddwyd a cheir dyfyniadau sylweddol o adolygiada­u mewn papurau newydd a chylchgron­au. Ac yn aml ceir sylwadau beirniadol treiddgar ac adeiladol ar y straeon unigol o fewn y cyfrolau.

Mae Rhiannon Marks yn amlwg yn ffan mawr o waith Mihangel Morgan ac wedi astudio ei gyhoeddiad­au yn eithriadol o fanwl. A rhaid parchu ei gwybodaeth drwyadl o lenyddiaet­h Gymraeg yn gyffredino­l, maes y mae wedi ei feistroli i’r ymylon. Nid yw’r gyfrol hon yn un arbennig o hawdd ei darllen, ond bydd llawer iawn o ddarllenwy­r gwerthfawr­ogol yn sugno budd a maeth o’i chynnwys.

 ??  ??
 ??  ??

Newspapers in Welsh

Newspapers from Argentina