Y Cymro

Dathlu’r daith at annibyniae­th Cymru Cyfrol amserol wrth i aelodaeth YesCymru chwyddo fwyfwy yn nyddiau tywyll y pandemig

- Cymru’n Deffro Annibyniae­th/ Independen­ce

Cyhoeddir cyfrol newydd sy’n crynhoi’r daith at annibyniae­th i Gymru.

Mae ‘ gan Mari Emlyn yn gyfrol ddwyieitho­g sy’n canolbwynt­io’n bennaf ar y pedair blynedd diwethaf.

Wrth orfod gohirio tair gorymdaith AUOB eleni, ofnai llawer y byddai momentwm yr ymgyrch dros Annibyniae­th yn pylu.

Ond mewn gwirionedd, mae’r llanast yn San Steffan wedi sodro annibyniae­th yn ôl ar yr agenda, gyda sawl un oedd yn Indy curious, yn datgan eu bod bellach yn Indyfuriou­s. Denodd YesCymru 1,321 o aelodau newydd ym mis Mai 2020 yn unig, a hynny ynghanol pandemig. Ym mis Mehefin, dangosodd arolwg y byddai 32% o’r boblogaeth yn pleidleisi­o dros annibyniae­th - 5% yn uwch nag oedd y ffigwr ym mis Ionawr. Mae’r gyfrol yn cynnwys cyfraniada­u gan Gadeirydd YesCymru Siôn Jobbins, Llywelyn ap Gwilym, Tim Walker ac Eddie Butler. Eglura Eddie Buttler yn groyw pam ei fod yn gefnogol i annibyniae­th.

Meddai: “Daeth fy rhieni i Gymru o Loegr yn syth wedi’r Ail Ryfel Byd... ffurfiwyd syniad fy rhieni o’u hunaniaeth gan yr Ail Ryfel Byd... bu’r rhyfel yn andwyol, ond esgorodd ar ysbryd arbennig: ysbryd Prydain a safai’n unedig a herfeiddio­l yn erbyn ideoleg frawychus.

“Dyw’r Deyrnas Unedig a wnaeth fy rhieni’n falch o alw eu hunain yn Brydeinwyr ddim yn bod bellach... pa ddaioni a ddaw i ran Cymru o San Steffan? Briwsion i bylu ein chwant am newid? Ond pa les gwirionedd­ol? Dim lles o gwbl. All dim da o gwbl ddod ohono. Dim yw dim.”

Yn dilyn galwad agored gan Y Lolfa a’r awdur, Mari Emlyn, ar ddechrau’r flwyddyn, cynhwysir cyfraniada­u gan bobl ar draws Cymru a thu hwnt sy’n egluro hanesion eu taith nhw dros gefnogi annibyniae­th ar ffurf lluniau a geiriau. Fel geiriau ysbrydoled­ig Duncan Fisher o Grughywel: “Dwi’n byw yng Nghymru ers 23 o flynyddoed­d. Fe symudon ni yma pan gawson ni blant.

“Does gen i ddim gwreiddiau Cymreig. Roedd fy nhad yn dod o Seland Newydd, ac roedd fy mam yn Almaenes a anwyd ym Mheriw. Cefais i fy ngeni yn y Dwyrain Canol, tra oedd fy rhieni’n gweithio mewn gwersyll i ffoaduriai­d ym Mhalestein­a. Mae fy merched wedi tyfu lan yn Gymry ac wrth iddyn nhw dyfu, felly hefyd y sgwrs ar yr aelwyd am Gymru. Esgorodd hyn ar drafodaeth a dyma nhw’n cynnig ein bod yn mynd i’r orymdaith ym Merthyr. Dwi’n hoffi gorymdeith­iau, felly derbyniais y gwahoddiad.

“Yr araith gyntaf oedd cerdd gan Patrick Jones ac ef ei hun yn ei darllen. Dyna ni wedyn. Doedd dim troi’n ôl! Dwi wedi bod yn gefnogwr brwd a gweithredo­l i YesCymru byth ers hynny.”

Bu’r gwaith o ddod â’r holl gyfraniada­u at ei gilydd yn un pleserus i’r awdur, Mari Emlyn.

Meddai: “Gellid bod wedi canolbwynt­io ar gyfnodau eraill yn hanes y daith hir at annibyniae­th i Gymru. Ond byddai naws cyfrol o’r fath yn wahanol. Mae hon, er gwaetha’r cyfnod rhyfedd yr ydym yn byw ynddo, yn gyfrol lawen. Nid rhywbeth syber mo annibyniae­th yng Nghymru ein dyddiau ni.”

Daw’r awdur a’r actores yn wreiddiol o Gaerdydd ond mae hi wedi hen ymgartrefu yn y Felinheli. Dilyniant i’w chyfrol

a gyhoeddwyd yn 2019 yw’r gyfrol

Cofiwch Dryweryn:

hon. Yn wir, mae cefnogi annibyniae­th wedi dod yn

‘Pa ddaioni a ddaw i ran Cymru o San Steffan? Briwsion i bylu ein chwant am newid? Ond pa les gwirionedd­ol?’

ddilyniant naturiol i stori Tryweryn i nifer ohonom. Bydd

(£7.99, Y Lolfa) yn cael ei lansio ar Tachwedd 5 am 7yh drwy Zoom Yes Cymru Caernarfon yng nghwmni yr awdur a Chadeirydd Yes Cymru, Siôn Jobbins.

 ??  ?? Tybed beth fyddai’r brenin Edward I yn ei ddweud o weld ei brif gadarnle ar ôl rhyfel y gorchfygu fel lleoliad i faneri annibyniae­th i Gymru?
Tybed beth fyddai’r brenin Edward I yn ei ddweud o weld ei brif gadarnle ar ôl rhyfel y gorchfygu fel lleoliad i faneri annibyniae­th i Gymru?
 ??  ??
 ??  ??
 ??  ??
 ??  ??

Newspapers in Welsh

Newspapers from Argentina