Llwyddiant wrth i Eisteddfod T blesio’r gynulleidfa
DAETH yr eisteddfod ddigidol gyntaf erioed ddod i ben dydd Gwener yn dilyn wythnos gyffrous o gystadlu. Bu rhaid gohirio Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Ddinbych am flwyddyn oherwydd y pandemic coronafeirws ac yn ei le fe drefnodd swyddogion yr Urdd Eisteddfod T tn ei le.
Cyhoeddwyd testunau’r cystadlaethau ar ddechrau’r mis yn annog plant, pobl ifanc a’r genhedlaeth
hŷn i wneud fideos a’u huwchlwytho i’r wefan - a throdd y cystadleuwyr allan yn eu miloedd, gyda
llawer yn ffilmio gyda theulu a ffrindiau mewn gwahanol leoliadau yn defnyddio Facetime, Zoom,
Teams a dulliau eraill sydd wedi dod yn gyfarwydd i lawer oherwydd y lockdown.
Ac er bod cystadlu arferol yn dod i ben yn Eisteddfod yr Urdd pan mae rhywun yn cyrraedd 25 oed roedd na rhai cystadlaethau i’r rhai hyn hefyd gan gynnwys y neiniau a’r teidiau.
Bu cystadleuwyr a gwylwyr yn mwynhau gŵyl ddigidol wahanol ar y radio, teledu ac ar-lein.
Denodd Eisteddfod T dros 6,000 o gystadleuwyr mewn mwy nag 80 o gystadlaethau, gyda chystadlaethau ychwanegol trwy gydol yr wythnos.
Ers diwedd y cystadlu mae’r cyfryngau cymdeithasol yn llawn negeseuon o gefnogaeth a diolch gan gystadleuwyr, hyfforddwyr, athrawon a chynulleidfaoedd fel ei gilydd.
“Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel,” meddai Sian Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd. “Mae
safon y cystadlu yn syfrdanol, ac rydyn ni mor falch o’r ymateb cadarnhaol a’r holl ganmol sydd.
“Mae’r ochr dechnegol wedi bod yn dipyn o her - dibynnu’n llwyr ar westeion yn cael eu cyfweld o bell gan gyflwynwyr mewn stiwdio dros-dro yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd, gan gadw at reolau pellter cymdeithasol, y beirniaid yn datgelu’r canlyniadau ar deledu byw, o’u cartrefi, ynghyd â’r holl gystadlu yn digwydd yn ddigidol.
“Mae wedi bod yn anodd, yn gymhleth, yn gofyn llawer o bawb ar a thu ôl y sgrin ac yn ddrwg i’r nerfau!
“Ond mae wedi mynd yn rhyfeddol o dda ac rydyn ni wedi ac yn parhau i gael ymateb gwych gan y gynulleidfa. Mae gwerthfawrogiad gwirioneddol gan bobl o’r ymdrech a’r ymroddiad a aeth i lwyfannu’r Eisteddfod hon.”
Ymunodd cynulleidfaoedd yn yr hwyl, ar deledu, radio ac ar-lein gyda mwy na 25 awr o ddarlledu byw ar S4C a
18 awr ar BBC Radio Cymru a gweithgaredd di-baid ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd hyd yn oed ‘faes’ eisteddfod digidol ar Facebook, Maes T gyda ‘stondinau’ rhithwir – denodd Maes T fwy na 4,400 o ymweliadau ar ei ddiwrnod cyntaf ac fe’i cadwyd ar agor am ddiwrnod ychwanegol oherwydd y galw.
Ychwanegodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: “Mae wedi bod yn wythnos a hanner, un na welwyd ei thebyg ac a fydd yn cael ei dathlu a’i chofio am flynyddoedd.
“Ry’n ni’n falch iawn o fod wedi gallu cydweithio gyda’r Urdd ar y fenter arloesol hon oedd yn cynnig cyfle i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd i ddisgleirio.
“Mae Eisteddfod T wedi llwyddo i ddod a Chymru gyfan ynghyd drwy rym technoleg ac ry’n ni’n falch iawn o fod wedi gallu darlledu holl fwrlwm a hwyl y digwyddiad heriol a hwyliog hwn yn fyw ar S4C. Llongyfarchiadau mawr i bawb.”
A meddai Rhuanedd Richards, Golygydd BBC Radio Cymru a BBC Cymru Fyw: “Ry’n ni’n hynod falch o fod yn rhan o ddigwyddiad arloesol a hanesyddol ac yn falch iawn o lwyddiant yr wythnos.”
Gyda lwc tu cefn i’r mudiad bydd Eisteddfod Genedalethol yr Urdd 2021 yn cael ei chynnal ar dir fferm ger Dinbych diwedd fis Mai nesaf.
Rhaid cofio bod yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd wedi ei gohirio eleni ac mae swyddogion yn trefnu gwyl ddigidol eu hunain diwedd mis nesaf.
Ac mae Gwyl AmGen yn parhau gyda amrywiaeth o ddigwyddiadau arlein at ddant pawb. Ceir fwy o fanylion ar wefan yr Eisteddfod www.eisteddfod.cymru