We can’t rely on either main British party to make things better for Wales
AC mor gyflym a mae o’n ein cyrraedd ni, mae’r Nadolig yn ein gadael ni am flwyddyn arall, ac mae’r flwyddyn newydd ar ein pennau ni unwaith eto. Rwy’n mawr obeithio eich bod wedi cael cyfle i ymlacio dros gyfnod y Nadolig a threulio amser yn mwynhau’r wŷl gyda’ch anwyliaid.
Fel a ddywedais ynghynt, mae hi’n flwyddyn newydd, ac yn flwyddyn dyngedfennol i ni yma yng Nghymru. Gydag Etholiad Cyffredinol ar y gorwel, mae 2024 yn cynnig y cyfle i ni ddefnyddio’n llais trwy bleidlais unwaith eto.
Os yw’r arolygon barn diweddaraf yn gywir, mae’n ymddangos mai hwn fydd yr etholiad sy’n disodli’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan allan o ‘rym. Ac ar un llaw mae’r newyddion yma i’w groesawu’n fawr. Mae eu polisïau anghyfrifol a’u hagweddau amharchus tuag at Gymru ers degawd a mwy bellach wedi achosi niwed anfesuradwy i’n cymunedau, a wedi gadael ein pobl a’n gwasanaethau cyhoeddus yn dlawd ac yn fregus.
Ond allwn ni ddim gadael i’n hunain gredu bydd pethau yn gwella i Gymru o dan arweinyddiaeth Keir Starmer ychwaith, na dibynnu arno fo a’r blaid Lafur i flaenoriaethu Cymru. Y gwir yw, o’r hyn yr ydym wedi ei glywed ganddo hyd yma ar faterion fel talu’r hyn sy’n ddyledus i Gymru am HS2 ac ar ddiwygio’r fformiwla gyllido i Gymru, mae’n edrych yn debyg mai mwy o’r un peth allwn ni ei ddisgwyl gan Lafur yn San Steffan hefyd.
Ond nid yn San Steffan yn unig fydd etholiad eleni. Cyn y Nadolig, cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod o am gamu i lawr o’i swydd yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Erbyn hyn, rydyn ni’n gwybod mai naill ai Jeremy Miles neu Vaughan Gething fydd yn ei olynu, ac wrth i’r ddau Weinidog presennol lansio’u hymgyrchoedd yn swyddogol, mae’n parhau yn aneglur hyd yma o bwy fydd yn dod i’r brig. Ond pwy bynnag fydd y Prif Weinidog nesaf, dylai bod mynnu tegwch a chyfiawnder i Gymru ar frig eu rhestr o flaenoriaethau. Os ydi’r ddau ymgeisydd o ddifrif ynglŷn â thrawsnewid Cymru, dylai bod mynnu cyllid teg gan Keir Starmer ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf fod yn flaenoriaeth.
A dyna pam bod Plaid Cymru yn hollbwysig i Gymru. Tra bo’r ddau brif blaid Brydeinig yn atebol yn y pen draw i’w penaethiaid yn San Steffan, mae Plaid Cymru wastad yn sefyll fyny dros flaenoriaethau ein cymunedau. Dim ond drwy ethol mwy o Aelodau Seneddol Plaid Cymru eleni y gallwn ennill y dylanwad i fynnu tegwch cyllidol i Gymru, yr arian sy’n ddyledus am HS2, ac i ddatganoli pwerau dros Ystâd y Goron, fel ein bod ni’n gallu buddsoddi mewn prosiectau ynni lleol.
Rydw i’n sicr mai nid dyma yw’r gorau all pethau fod i Gymru. Yn y flwyddyn newydd hon, edrychaf ymlaen at ddal y Prif Weinidog newydd i gyfrif yn y Senedd ynglŷn â’r materion sydd yn bwysig i’n cymunedau, yn ogystal ag ymgyrchu ar hyd a lled Cymru dros y misoedd nesaf gydag ymgeiswyr arbennig Plaid Cymru, a gydag ein prif neges o fynnu tegwch ac uchelgais i Gymru wrth wraidd yr ymgyrchu.
AND as quickly as it arrives, Christmas leaves us for another year, and the new year is upon us once again. I sincerely hope you have had the opportunity to relax over the Christmas period and spend time enjoying the festive period with loved ones.
As I said earlier, it’s a new year, and an important year for us here in Wales. With a General Election looming, 2024 offers us the opportunity to use our voice in the polls once again.
If the latest opinion polls are correct, this appears to be the election that removes the Conservative Government at Westminster from power. And on one hand this news is very welcome. Their irresponsible policies and disrespectful attitudes towards Wales for a decade and more now have caused immeasurable damage to our communities, and left our people and public services poor and vulnerable.
But we can’t let ourselves believe things will get better for Wales under Keir Starmer’s leadership either, or rely on him and the Labour party to prioritise Wales. The fact is, from what we’ve heard from him so far on issues such as paying what Wales is owed for
HS2 and on reforming the funding formula for Wales, it looks like more of the same is what we can expect from Labour in Westminster too.
But not only in Westminster will there be an election this year. Before Christmas, First Minister Mark Drakeford announced he was to step down from his post early in the new year. We now know that either Jeremy Miles or Vaughan Gething will succeed him, and as the two current Ministers officially launch their campaigns, it remains unclear as to who will come out on top. But for whoever becomes the next First Minister, demanding fairness and justice for Wales should be at the top of their list of priorities. If both candidates are serious about transforming Wales, demanding fair funding from Keir Starmer after the next general election must be a priority.
And that’s why Plaid Cymru is so important to Wales. While the two main British parties are ultimately accountable to their bosses at Westminster, Plaid Cymru always stands up for the priorities of our communities. Only by electing more Plaid Cymru MPS this year can we have the leverage to demand fiscal fairness for Wales, the money owed for HS2, and to devolve powers over the Crown Estate, so that we can invest in local energy projects.
I’m certain that this isn’t as good as it gets for Wales. In this new year, I look forward to holding the new First Minister to account in the Senedd on the issues that matter to our communities, as well as campaigning across Wales over the coming months with Plaid Cymru’s great candidates, and championing our main message of demanding fairness and ambition for Wales.