Bangor Mail

Air ambulance decision a huge blow but we can’t and won’t give up fight

-

BYDD y rheiny ohonoch sydd yn darllen fy ngholofn ers tro neu’n fy nilyn ar y cyfryngau cymdeithas­ol yn gwybod am fy mhryderon ynghylch dyfodol canolfanna­u Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghaernarf­on a’r Trallwng.

Dysgom am y cynlluniau i gau’r ddwy ganolfan a’u gyfuno i un ganolfan ganolog yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn gyntaf yn ôl yn 2022. Ond roedd hi’n amlwg cyn gynted ag y cyflwynwyd y cynlluniau hynny bod pryderon dwys ymhlith cymunedau ym Môn, gogledd-orllewin Cymru a’r canolbarth ynglŷn â’r effaith y byddai penderfyni­ad o’r fath yn ei gael ar eu mynediad at wasanaeth mor bwysig.

Felly ar ôl galwadau cryf a chyson gan Blaid Cymru yn y Senedd, ac ymdrech ddiwyd ar lawr gwlad gan aelodau’r cyhoedd a gododd eu lleisiau yn erbyn y cynlluniau yma, comisiynwy­d adolygiad annibynnol gan y Pwyllgor Gwasanaeth­au Ambiwlans Brys i edrych eto ar y ffordd orau o drefnu adnoddau Ambiwlans Awyr Cymru yng ngogledd a chanolbart­h Cymru yn y dyfodol.

Ond yn anffodus, roedd yr adroddiad terfynol - a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf - a’r argymhelli­on a wnaed ynddo i gau canolfanna­u Caernarfon a’r Trallwng yn hynod siomedig, ac mae’n anodd peidio â theimlo fel ein bod wedi cael ein tywys ar daith hir lle’r oedd y gyrchfan yn y pen draw o barhau â’r cynigion gwreiddiol yn gwbl anochel.

Mae cael gwasanaeth fel yr Ambiwlans Awyr yn agos at gymunedau - yn enwedig rhai gwledig sydd fwyaf anodd eu cyrraedd - yn gwbl hanfodol, ac er bod yr adroddiad terfynol yn dadlau y bydd symud i ganolfan ganolog yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn golygu gwell gwasanaeth i fwy o bobl, mi fydd hyn ar draul y gwasanaeth a dderbynnir ar hyn o bryd gan bobl yn Ynys Môn ac ar draws gogleddorl­lewin a chanolbart­h Cymru. Ac nid pryderon y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn y cymunedau yma yw’r rhain yn unig; ond barn broffesiyn­ol meddygon, arbenigwyr a’r rhai sy’n gweithio yn y gwasanaeth hefyd. Wrth gwrs, nid yw hyn i ddweud ein bod yn gwrthwyneb­u gwella gwasanaeth­au mewn llefydd eraill - ymhell ohoni! Rydym i gyd eisiau gweld gwasanaeth­au gwell ar draws y wlad, ond ni ellir gwneud y gwellianna­u hynny olygu gwanhau’r ddarpariae­th mewn ardaloedd eraill ar draws Gymru.

Hoffwn ddiolch i’r rheiny sydd wedi ymgyrchu’n ddiflino i wneud yr achos dros gadw’r ddwy ganolfan yn weithredol. Nhw yw’r rhai sydd wedi mynychu cyfarfodyd­d cyhoeddus, sydd wedi arwyddo’r deisebau, ac sydd wedi ymgysylltu’n adeiladol â’r prosesau ymgynghori yn yr adolygiad, ac rwy’n eu hannog i barhau â’u gwaith da.

Yr wythnos diwethaf yn y Senedd, galwais ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaeth­au Cymdeithas­ol i edrych eto ar yr effaith y byddai’r argymhelli­on hynny, pe baent yn cael eu gweithredu, yn eu cael ar ddiogelwch rhai o’n cymunedau gwledig ac i ystyried ymyrryd, ac rwy’n mawr obeithio y caiff yr opsiwn hwn ei ystyried o ddifri. Ni allwn roi’r gorau i hyn rŵan, ac mae’n rhaid i ni edrych mewn i bob llwybr i herio’r penderfyni­ad yma. Byddaf i a fy nghyd-aelodau Plaid Cymru yn parhau i leisio’r achos ar bob cyfle posibl o’r angen i achub y ddwy ganolfan.

THOSE of you who are long-time readers of my column or follow my social media platforms will know that I’ve long had concerns regarding the future of the Welsh Air Ambulance bases in Caernarfon and Welshpool.

We first learned of the proposals to close both bases and consolidat­e them into one centralise­d base in the north-east of Wales back in 2022. But it was clear as soon as those proposals were put forward that there were serious concerns among communitie­s in Anglesey, north-west Wales, and mid-wales about the impact that such a decision would have on their access to what is such an important service.

So after strong and consistent calls from Plaid Cymru in the Senedd and a diligent effort on the ground by members of the public who raised their voices in opposition to this proposal, an independen­t review was commission­ed by the Emergency Ambulance Services Committee to look again at how best to organise the resources of the Welsh Air Ambulance in north and midwales in the future.

But unfortunat­ely, the final report, released last week, and the recommenda­tions made within it to close both the Caernarfon and Welshpool bases were incredibly disappoint­ing, and it’s difficult not to feel as if we’ve been taken on a long journey where the final destinatio­n of continuing with the original proposals was entirely inevitable.

Having a service like the Air Ambulance within close proximity to communitie­s - especially rural ones that are most difficult to reach - is imperative, and while the final report argues that the move to a centralise­d base in north-east Wales will mean a better service for more people, that will ultimately come at the cost of deteriorat­ing the service currently being received by people in Ynys Môn and across north-west and midwales. And these aren’t just the concerns of those who live and work within these communitie­s; they’re also the profession­al opinions of doctors, specialist­s, and those who work within the service as well.

Of course, this is not to say that we’re against the improvemen­t of services in other areas—far from it! We all want to see services improved across the country, but making those improvemen­ts cannot mean weakening provision in other areas.

My thanks go to those who have campaigned tirelessly to champion the cause of keeping both bases operationa­l. They’re the ones who’ve attended public meetings, who’ve signed the petitions, and who’ve engaged constructi­vely with the consultati­on processes within the review, and I urge them to continue with their good work.

Last week in the Senedd, I called on the Minister for Health and Social Services to look again at the impact those recommenda­tions, if implemente­d, would have on the safety of some of our rural communitie­s and to consider intervenin­g, and I sincerely hope this option is seriously considered.

We cannot give up on this now, and we must explore every avenue to challenge this decision. I and my Plaid Cymru colleagues will continue to make the case at every possible opportunit­y of the need to save both bases.

 ?? ??
 ?? ?? with Ynys Môn MS Rhun ap Iorwerth
with Ynys Môn MS Rhun ap Iorwerth

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom