Deng mil o resymau dros ganfod y Celwydd Noeth
BYDD £10,000 ar gael fel prif wobr wrth i’r cwis poblogaidd Celwydd Noeth ddychwelyd i S4C ar nosweithiau Iau.
Y ddarlledwraig Nia Roberts fydd yn gosod y sialens i gystadleuwyr o ledled Cymru yn y sioe gwis o nos Iau 1 Medi ymlaen wrth iddyn nhw fynd drwy’r rowndiau gan anelu am y jacpot.
Yr hyn sy’n gwneud Celwydd Noeth yn wahanol yw’r ffaith nad oes unrhyw gwestiynau i’w hateb. Yr hyn sydd angen ei wneud er mwyn ennill arian a symud i fyny o ris i ris ydy dewis pa gelwydd sy’n ymddangos mewn rhestr o ffeithiau ym mhob rownd.
Dyma’r drydedd gyfres o’r cwis – a does yna’r un pâr eto wedi ennill y jacpot o £10,000 yn y gyfres. Tybed a fydd Nia, sy’n wreiddiol o Fenllech, yn dathlu yng nghwmni pâr llwyddiannus yn y gyfres hon o wyth sioe?
Yn anelu am y deng mil yn y sioe gyntaf mae’r pâr o Gaernarfon, Rhys Llwyd a Fflur Jones, ynghyd â’r ddau gyfaill, Aled Thomas, o Gaerdydd a Lloyd Robling, o Gasnewydd.
Dywed Aled, sy’n 23 oed ac yn wreiddiol o Aberystwyth: “Wnaethon ni’n dau fwynhau’r ffilmio yn fawr. Roedden i erioed wedi gwneud rhywbeth fel ‘na o’r blaen. Roedd e’n gyfle gwych ac mae’n brofiad fydden ni’n siarad amdano am amser maith.”
Mae Aled a Lloyd yn actorion proffesiynol ifanc a bydd Aled yn gyfarwydd i wylwyr drama sebon S4C, Pobol y Cwm, fel yr actor sy’n portreadu’r athro ysgol, Tyler Davies.Pâr arall sy’n cystadlu fydd y ffrindiau mawr o’r Felinheli, Islwyn Owen a Gareth Griffith. Mae’r ddau, sydd yn rhan o bwyllgor trefnu Gŵyl Y Felinheli, wedi bod yn ffrindiau ers eu plentyndod.
Dywed Islwyn, “Y gobaith oedd curo pres mawr. Roedd gen i awydd mynd i Batagonia ar fy ngwyliau. Roedd Gareth eisiau rhoi pres i’w blant fel bod ganddyn nhw rywfaint o bres fel deposit tuag at brynu tŷ yr un. Wnaethon ni wylio’r cyfresi cynt ac roedden ni’n deall beth oedd y sialens. Roedden ni’n gwybod y byddai’r pwysau yn siŵr o gynyddu pan fydden ni yna ar y set, ond roedden ni’n reit hyderus y bydden ni’n gallu ennill rhywbeth.”
Gwyliwch Celwydd Noeth i weld a fydd Islwyn a Gareth, neu unrhyw un bar arall, yn gadael y stiwdio gyda “phres mawr”. Celwydd Noeth: S4C, nos Iau, 8.25pm