Caernarfon Herald

Daliwch yn dynn am uchafbwynt­iau’r tymor rasio harnes

-

MAE 2016 wedi bod yn dymor cyffrous o rasio harnes yng Nghymru a gallwch fwynhau’r munudau mwyaf cofiadwy ar raglen yn llawn cyffro ar S4C.

Bydd y rhaglen uchafbwynt­iau Rasus yn cael ei chyflwyno o Rasus Tregaron lle mae gŵyl rasus trotian mwyaf Cymru yn cael ei chynnal ar gaeau enwog Dolyrychai­n.

Mae’r rhaglen yn cael ei dangos ar S4C nos Lun 29 Awst, yn syth ar ôl penwythnos Rasus Tregaron dros ŵyl y banc.

Prif rasus yr ŵyl yw cyfres Clasur Cymru, ac ar ôl cyfnod llwm ar droad y ganrif, y Cymry sydd wedi cipio’r Clasur deirgwaith yn y pedair blynedd diwethaf. Tybed pwy aiff a’r brif wobr o £6,000 eleni?

Dywed cynhyrchyd­d Rasus, Geraint Lewis o gwmni Slam, “Rasus Tregaron yw un o’r gwyliau rasio harnes mwyaf poblogaidd ym Mhrydain. Mae camerâu S4C wedi bod yno ers 1993 yn adlewyrchu’r bwrlwm rhyfeddaf sy’n codi bob blwyddyn, yn syml am fod cymaint yn y fantol i’r gyrwyr, y ceffylau a’r perchnogio­n. Heb os i gystadleuw­yr a dilynwyr y gamp ledled Prydain ac Iwerddon, Tregaron yw uchafbwynt y tymor ac mae ennill yno’n werth y byd i gyd. I ni fel criw teledu sy’n mynd o ddigwyddia­d i ddigwyddia­d ar hyd yr haf, mae bod yno pan fo ceffyl lleol yn ennill yn wefr gwbl unigryw.”

Dau sydd â’r ardal yn eu gwaed fydd wrth y llyw – Ifan Evans o Bontrhydyg­roes yn cyflwyno, ac Wyn Gruffydd, dreuliodd dalp helaeth o’i blentyndod o gwmpas Ffair Rhos, yn sylwebu. Cawn hefyd holl uchafbwynt­iau tymor y ddau gorff sy’n rasio bob penwythnos yng Nghymru – Clwb Rasio Harnes Prydain (BHRC) a Chymdeitha­s Rasio Cymru a’r Gororau (WBCRA), neu’r Hen Gorff a’r Annibynwyr. Rasus: S4C, nos Lun 9pm

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom