Caernarfon Herald

Teyrnged gerddorol i gofio plant Aberfan

-

MAE 21 Hydref 1966 yn fyw yng nghof y cyfansoddw­r byd enwog Syr Karl Jenkins – y diwrnod pan laddwyd 144 o bobl, yn cynnwys 116 o blant Ysgol Pantglas, yn nhrychineb Aberfan.

Lloriwyd y gymuned lofaol ar y diwrnod hwnnw, ac mae effeithiau’r drychineb yn dal i’w teimlo’n gryf yn y cwm, yng Nghymru a thu hwnt.

“Am wn i, y rheswm pam fod emosiwn y digwyddiad mor llethol o ddwys yng Nghymru yw am ein bod ni’n wlad mor fach,” meddai Syr Karl Jenkins, a oedd yn 22 oed ar ddiwrnod y drychineb ac yn fyfyriwr yn yr Academi Frenhinol Gerddorol yn Llundain.

Yr effaith ddwys yma, ynghyd â stori ddirdynnol y gymuned glos a wnaeth ail-adeiladu a brwydro am gyfiawnder, sydd wedi ysbrydoli gwaith corawl newydd y cyfansoddw­r.

I nodi 50 mlynedd ers y drychineb, cafodd Syr Karl Jenkins a’r Prifardd Mererid Hopwood eu comisiynu gan S4C i greu teyrnged barhaol i gymuned Aberfan.

Bydd Cantata Memoria: Er mwyn y plant yn cael ei pherfformi­o am y tro cyntaf mewn cyng- erdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar nos Sadwrn, 8 Hydref, a’i darlledu ar S4C y noson ganlynol. Mae’r gwaith yn cael ei ryddhau ar ffurf albwm ar 7 Hydref.

Yn perfformio’r darn am y tro cyntaf bydd rhai o brif artistiaid clasurol Cymru, yn cynnwys y bas bariton Bryn Terfel, y soprano Elin Manahan Thomas, y delynores Catrin Finch, yr unawdydd ewffoniwm David Childs a’r feiolynydd anhygoel a aned yn Ne Corea, Joo Yeon Sir. Yn rhannu’r llwyfan bydd cerddorfa Sinfonia Cymru ac mi fydd y corau plant Côr Heol y March, Côr y Cwm ac Ysgol Gerdd Ceredigion yn uno i ffurfio côr, felly hefyd y corau, Côr Caerdydd, Côr CF1 a Cywair.

“Gydag anrhydedd, balchder a braint, derbyniais y cynnig ar unwaith,” meddai Syr Karl Jenkins am y comiwisn, “gan hefyd gofio’r cyfrifolde­b sydd ynghlwm â’r comisiwn i gyfansoddi rhywbeth sydd yn onest ac sy’n agored i bawb ac yn cyffwrdd â’r emosiynau.”

Aberfan Stori’r Cantata Memoria: S4C, nos Sadwrn 9.35pm. Aberfan – Cantata Memoria nos Sul 7.30pm

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom